Shoree yn sefyll yn nrws y 'ger', cartre'r teulu © Timothy Allen

Byw ym Mongolia

Rhaglen 9: Darllediad cyntaf am 8.30 dydd Llun 14 Chwefror, ailddarllediad am 12.20 ddydd Mawrth 22 Chwefror 2011 yn ystod Cyw ar S4C.

Yn y rhaglen hon rydyn ni'n teithio i wastadeddau Mongolia i gwrdd â Shoree sy'n bedair mlwydd oed, a'i theulu.

Teulu o nomadiad bugeiliol ydyn nhw sy'n symud yn aml i chwilio am law a gwair newydd.

Yr enw ar eu cartref ydy 'ger' - tŷ crwn y gellir ei godi a'i dynnu i lawr mewn ychydig oriau. Mae'r tai - sydd fel pebyll mawr - yn cael eu codi o amgylch ffrâm bren ac maen nhw wedi eu gwneud o ffelt trwchus i gadw'r gwres i mewn a gorchudd cynfas drosto i gadw'r tywydd rhewllyd draw.

Yma, mae Shoree, yr ieuengaf o dair merch, yn byw gyda'i theulu. Mae hi'n dangos y ger inni yn ogystal ag anifeiliaid y teulu - eu gyrr o iaciaid, a'r ŵyn a'r geifr bach sydd hefyd yn cael eu cadw yn y ger.

Bob haf, mae'r teulu yn cludo eu holl eiddo - stôf, cypyrddau, gwlâu a charpedi - ar gertiau wedi eu tynnu gan yr iacs er mwyn dilyn eu hanifeiliaid i borfeydd newydd.

Gwelwn Shoree yn helpu ei theulu i godi'r ger newydd yn yr haf. Maen nhw'n gofalu adeiladu'r ger newydd o amgylch y dodrefn!

Ewch i'r adran Gwylio i weld rhaglenni'r gyfres yn ystod y cyfnod darlledu, neu i weld clipiau o'r rhaglenni wedi hynny.


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.