
Gŵyl y Sing Sing, Papua Gini Newydd
Rhaglen 7: darllediad cyntaf am 8.30 ddydd Llun 7 Chwefror, ailddarllediad am 12.20 ddydd Mawrth 15 Chwefror 2011 yn ystod Cyw ar S4C.
Yn y rhaglen hon, teithiwn i Ddyffryn Tari ym Mhapwa Gini Newydd i weld rhai o ddawnswyr yr Huli. Rydyn ni'n cwrdd yma ag Evelyn, sy'n bum mlwydd oed, wrth iddi gael ei gwisgo a'i haddurno mewn plu prydferth yr aderyn Paradwys a gleiniau a chael paentio ei chorff.
Mae'n cymryd dipyn o amser ond mae'n werth aros wrth iddi hi a gweddill llwyth yr Huli baratoi at ŵyl ddawnsio drawiadol a lliwgar y Sing Sing.
Ewch i'r adran Gwylio i weld rhaglenni'r gyfres yn ystod y cyfnod darlledu, neu i weld clipiau o'r rhaglenni wedi hynny.
Mwy
- 1. Helpu ym Mali
- 2. Bywyd ar lan y Rio Negro
- 3. Casglu'r iam yn Iap
- 4. Byw yn Ethiopia a Gogledd Canada
- 5. Casglu dŵr ar dir Samburu
- 6. Paratoadau cyffrous ym Mongolia
- 8. Byw ar gefnfor Malaysia
- 9. Byw ym Mongolia
- 10. Byw yn y jyngl, Papua
- 11. Bywyd ar yr Ynys Las ac ar lan y Rio Negro
- 12. Byw ym Mali
- 13. Byw yn y jyngl, Brasil
- 14. Anifeiliaid o amgylch y byd
- 15. Cartrefi o amgylch y byd
- 16. Helpu a chwarae




