
Helpu ym Mali
Rhaglen 1: Darllediad cyntaf am 8.30 ddydd Llun Ionawr 17, ailddarllediad am 12.20 ddydd Mawrth Ionawr 25 2011 yn ystod Cyw ar S4C.
Yn y rhaglen hon rydyn ni'n teithio i ddinas brysur Djenne ym Mali, y ddinas hynaf y gwyddom amdani yn is Sahara Affrica.
Gan nad oes cerrig na choed wrth law ar gyrion y Sahara, mae'r ddinas wedi ei hadeiladu o'r hyn sydd gan yr amgylchedd i'w gynnig, sef mwd a gwellt.
Yma, cawn gwrdd â bachgen bach prysur sy'n bedair mlwydd oed o'r enw Mama Kayentan a'i dad. Mae'r ddau yn cerdded gyda'u basgedi gwag i wely'r afon i gasglu mwd. Ar ôl casglu'r mwd maent yn cerdded adref gyda'r basgedi llawn mwd ar eu pennau. Mae'n anhygoel gweld eu dyfeisgarwch wrth iddyn nhw gymysgu'r mwd gyda'r gwellt er mwyn ei gryfhau a thrwsio wal eu cartref.
Ewch i'r adran Gwylio i weld rhaglenni'r gyfres yn ystod y cyfnod darlledu, neu i weld clipiau o'r rhaglenni wedi hynny.
Mwy
- 2. Bywyd ar lan y Rio Negro
- 3. Casglu'r iam yn Iap
- 4. Byw yn Ethiopia a Gogledd Canada
- 5. Casglu dŵr ar dir Samburu
- 6. Paratoadau cyffrous ym Mongolia
- 7. Gŵyl y Sing Sing, Papua Gini Newydd
- 8. Byw ar gefnfor Malaysia
- 9. Byw ym Mongolia
- 10. Byw yn y jyngl, Papua
- 11. Bywyd ar yr Ynys Las ac ar lan y Rio Negro
- 12. Casglu dŵr ym Mali Negro
- 13. Yn y jyngl ym Mrasil
- 14. Anifeiliaid o amgylch y byd
- 15. Cartrefi o amgylch y byd
- 16. Helpu a chwarae




