
Beth yw Plant y Byd
Dathliad o fywyd plentyn yw Plant y Byd. Mae bob rhaglen yn dilyn hynt a helynt plant ifanc o bedwar ban byd gan roi cip i wylwyr ifanc Cyw o fywyd ble bynnag y bônt ar y blaned hon.
Cawn weld beth sy'n gyffredin a hefyd yn wahanol ym mywydau plant ledled y byd wrth i ni fynd ar daith liwgar, unigryw a syfrdanol.
Er bod profiadau, amgylchiadau ac amgylchedd y plant yn medru bod yn hollol wahanol, gwelwn fod pob plentyn yn debyg yn eu calonnau a'u gwên yr un fath ar draws y byd.
Daeth y syniad am y gyfres yma i blant 3-6 mlwydd gan y cynhyrchydd Elen Rhys ar ôl iddi glywed am gomisiynu'r gyfres BBC Human Planet sy'n dod â straeon anhygoel o bob cwr o'r byd am allu pobl i fyw law yn llaw â natur.
Mae Plant y Byd yn cynnwys 16 o raglenni pum munud o hyd a ddarlledwyd ar y teledu yr un pryd â Human Planet rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2011.
Mae pob rhaglen yn dilyn ryw weithgarwch ym mywyd plentyn mewn gwahanol rannau o'r byd.
Drwy weithio'n agos gyda chriw cynhyrchu Plant y Byd yng Nghymru, cafodd y straeon eu ffilmio gan dîm Human Planet ar leoliad mewn 80 o lefydd mwyaf anghysbell y byd.
O un wlad i'r llall, anfonodd y tîm straeon cyffrous yn ôl: dyna ichi Dua, merch fach chwe mlwydd oed sy'n byw mewn jwngl yn Papua; bachgen direidus o'r enw Carlos Eduardo sy'n byw ar lannau'r Rio Negro ym Mrasil; Shoree, bedair mlwydd oed, sy'n helpu ei thad i adeiladu eu cartref ym Mongolia ac Edjongon, sydd ond yn dair mlwydd oed ac yn cerdded bellteroedd bob dydd i gasglu dŵr o ffynnon ym Mali.
Dywedodd Elen Rhys fod gweithio ar y gyfres wedi gwneud iddi feddwl: "Heb gyffredinoli, fel y byddwch yn ei ddarganfod, ychydig iawn sydd gan lawer o'r plant yma a'u teuluoedd, ac eto, maen nhw'n ymddangos yn fodlon eu byd lle mae cymuned a rhannu yn ffordd o fyw.
"Fe ddysgodd lawer imi a gwneud imi feddwl. Fel mam i blentyn chwe mlwydd oed, ydyn ni yn Gorllewin wedi colli ein persbectif?
"Gobeithio y cewch chi a'ch plant gymaint o fwynhad o'r rhaglenni ag y cefais i o fod yn rhan o'r tîm."
Mae Plant y Byd yn gynhyrchiad BBC Cymru Wales ar gyfer S4C. Mae'r gyfres hefyd yn cael ei darlledu yn Saesneg ar CBeebies dan yr enw Little Human Planet.




