Asesiad athro/athrawes
Mae asesu'n broses barhaus. Mae athrawon yn asesu gwaith disgyblion o ddydd i ddydd ym mhob pwnc a gweithgaredd. Mae'r athro/athrawes yn edrych sut y mae disgybl yn dod yn ei flaen yn y gwahanol rannau o bob pwnc, yn penderfynu pa lefel o'r Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n gweddu orau i'r perfformiad ym mhob rhan, ac yna'n penderfynu ar lefel gyffredinol ar gyfer y pwnc.
Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3
Bydd disgyblion yn gwneud tasgau a phrofion cenedlaethol a elwir yn TASau. Cyfres o brofion 'papur a phensel' byr yw'r rhain mewn Saesneg, Cymraeg (fel iaith gyntaf), mathemateg a gwyddoniaeth. Gwneir y TASau ar nifer o ddiwrnodau penodedig ym Mai a chymerant oddeutu 7 awr i gyd. Cânt eu marcio gan athrawon sydd wedi eu hyfforddi'n benodol.
Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4
Mae nifer o opsiynau gwahanol y gall eich plentyn eu dewis yn ystod y cyfnod hwn, ar gyngor ei athrawon:
- Y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwch (TGAU). Dyma un o'r prif ffyrdd o asesu cynnydd disgyblion 16 oed
- Y Dystysgrif Cyrhaeddiad Addysgol (CoEA). Mae'n bosib y bydd disgyblion nad ydynt yn cyrraedd lefel 3 yn y profion statudol ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 hefyd yn cael cynnig y cyfle i sefyll arholiadau sy'n arwain at y cymhwyster hwn
- Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol (GNVQ).
- Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ)
Gwefannau defnyddiol
www.accac.org.uk
Gwybodaeth gynhwysfawr ar y cwricwlwm gan Adran Addysg Dysgu Gydol Oes a Sgiliau y Cynulliad.
www.cymru.gov.uk/subieducationtraining
Arweiniad wrth y Cynulliad ar y Cwricwlwm Cenedlaethol, asesu ac adroddiadau, yn arbennig ar gyfer rhieni plant uwchradd.
www.cymru.gov.uk/subieducationperformance
Gwybodaeth am y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru. Bydd yn rhoi gwell syniad i chi o'r hyn sy'n cael ei addysgu i'ch plentyn a sut y caiff ei gynnydd ei fesur, ac yn eich helpu i baratoi i drafod gydag athrawon am gynnydd eich plentyn.
www.accac.org.uk
Gwefan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, sy'n cynnwys gwybodaeth am y Cwricwlwm Cenedlaethol a phrofion statudol.
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol