 |  |   | Sut rydych chi'n ymddwyn |  |
 | Rydych yn siwr o fod yn anghyson! Ond ceisiwch fod yn gyson wrth fod yn anghyson - mae hynny'n normal! - Os yw'ch partner yn byw gartref, ceisiwch ffurfio partneriaeth y gall eich plant ei gweld yng nghyd-destun disgyblaeth. Mae angen i'r ddau ohonoch ddilyn yr un rheolau ar gyfer delio gyda'ch plant (does dim diben i un ohonoch fod yn llym iawn a'r llall yn amhendant iawn)
- Peidiwch â gadael i'ch plentyn eich gweld yn dadlau ynghylch sut y dylech ddelio gyda'i broblemau / ymddygiad gwael
- Gwnewch yn siwr bod taid a nain neu berthnasau eraill / ffrindiau agos yn deall y rheolau, fel nad yw'r system yn chwalu pan fo'r plentyn yn mynd i aros gyda hwy
- Dangoswch esiampl dda. Ydych chi'n berson 'Gwna fel rydw i'n ei ddweud' neu 'Gwna fel rydw i'n ei wneud'? Os nad yw'ch plentyn yn gweld ymddygiad da ynoch chi, pam ddylai wneud yr hyn rydych chi'n ei ddweud?
- A ydym yn disgwyl rheolau ac ymateb gwahanol gan blant ac oedolion? Er enghraifft, ydych chi'n gweiddi ac yn rhegi pan rydych yn flin, ond yn meddwl na ddylai'ch plant chi wneud hynny? Pa strategaethau gwell allech chi eu defnyddio fel eich bod chi a'ch plant yn gallu cael gwared ar eich dicter?
Cynnydd? Rhowch amser i chi eich hun a gwobrau Mae'n cymryd o leiaf 30 diwrnod i newid arferiad sydd wedi cymryd misoedd neu flynyddoedd hyd yn oed i'w ffurfio, felly os ydych yn newid y ffordd rydych yn ymddwyn gyda'ch plant, byddwch yn amyneddgar. - Peidiwch â cheisio newid gormod o bethau yr un pryd. Yn aml iawn rydym yn disgwyl gormod a hynny'n rhy fuan ac yna'n cael ein siomi pan nad ydym yn gweld gwelliannau'n digwydd yn ddigon buan
- Gosodwch dargedau bychain sydd o fewn cyrraedd ar eich cyfer chi a'ch plentyn
- Cysurwch eich hun y bydd pethau'n mynd o chwith weithiau, ond y bydd popeth yn iawn eto cyn bo hir
- Penderfynwch beth sy'n bwysig yn hytrach na beth sydd ei angen ar unwaith. Byddwch yn hyblyg ynghylch sut rydych yn mynd i newid. Efallai y bydd angen i chi addasu wrth fynd yn eich blaen
- Pan nad yw pethau'n gweithio dywedwch hynny wrth eich plentyn a cheisiwch ei gynnwys yn y gwaith o benderfynu ar rywbeth gwahanol
- Cadwch ddyddiadur. Mae hyn yn aml yn ffordd dda o weld newidiadau bychain dros gyfnod o amser
- Gwobrwywch eich plentyn am welliant, a gwobrwywch eich hunan am lwyddiant!
Gwefan ddefnyddiol: BBC Parents. Cyngor am sut i hybu hunan-hyder eich plentyn. Darllennwch brofiadau'r athrawes Helen Davies o adgyfnerthu'r positif. |  | |
|   |
|  |  |
|