Bydd y ffordd y mae'ch plant yn cael eu haddysgu am ryw yn cael effaith fawr iawn ar eu hagweddau. Gall rhieni wneud cyfraniad pwysig i ddealltwriaeth plant o ryw a pherthnasoedd, felly nid yr ysgol yn unig sy'n gyfrifol: byddwch yn ddewr!
Pwy ddylai wneud y siarad?
Dengys ymchwil fod plant a phobl ifanc eisiau derbyn eu haddysg gyntaf am ryw a pherthnasoedd nid gan eu hysgol, ond gan eu rhieni a'u teuluoedd. Gall yr ysgol ac oedolion eraill (nyrsys ysgol, meddygon ac yn y blaen) adeiladu ar hyn yn ddiweddarach.
Ond mae llawer o rieni a chynhalwyr yn ei chael yn anodd i siarad gyda'u plant am ryw a pherthnasoedd. Mae tadau, yn enwedig, yn ei chael yn anodd i siarad gyda'u meibion.
Pam bod rhieni mor bwysig
Rhieni/cynhalwyr yw'r bobl allweddol wrth:
- ddysgu eu plant am ryw a pherthnasoedd
- cynnal diwylliant ac ethos y teulu
- helpu eu plant i ddygymod ag agweddau emosiynol a chorfforol tyfu
- paratoi'r plant ar gyfer her a chyfrifoldebau bywyd.
Gan mai chi sy'n darparu'r amgylchedd diogelaf, bydd plant yn teimlo'n fwy 'diogel' wrth ddysgu 'ffeithiau bywyd' gennych chi, a gallwch chi eu helpu i weld lle mae rhyw yn dod i mewn i'r broses o dyfu a ffurfio perthynas.
Sut i siarad am y pwnc
Efallai eich bod yn ei chael yn anodd i siarad, er enghraifft, am enwau cywir rhannau o'r corff, teimladau a pherthnasoedd, neu i ateb cwestiynau am dyfu, cael babi, teimlo atyniad tuag at rywun, rhywioldeb, atal cenhedlu, perthynas ac iechyd rhywiol.
Y peth pwysicaf i'w wneud yw dweud y gwir a bod yn glir, a pheidio a gwneud tybiaethau ynghylch faint y mae'ch plentyn yn ei wybod - mae'n faes lle gall pob math o gamsyniadau ddatblygu'n hawdd iawn, yn enwedig pan fo plant wedi clywed pethau gan eu cyfoedion.
Mae llawer o ffynonellau lle gallwch gael cefnogaeth er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r geiriau iawn. Er enghraifft, mae'n bosib bod gan eich meddygfa, eich clinig iechyd lleol neu'ch adran gwasanaethau cymdeithasol daflenni sydd wedi eu paratoi gan sefydliadau fel y Gymdeithas Cynllunio Teulu ac sy'n cynnwys gwybodaeth i rieni a phobl ifanc. Efallai fod taflenni a llyfrau am y pwnc ar gael hefyd yn eich llyfrgell leol.
Gwefannau defnyddiol:
Likeitis
Gwybodaeth a chyngor am amryw o bynciau.
Talkingwithkids
Cyngor ymarferol ynglyn â siarad â'ch plentyn am bynciau anodd fel rhyw a chyffuriau.
Addysg ryw mewn ysgolion
Bydd gan ysgol eich plentyn bolisi ar addysg ryw - beth sy'n cael ei ddysgu, pa bryd, ac yn y blaen, a gallwch ofyn am gopi. Mae angen i ysgolion weithio mewn cysylltiad agos â rhieni er mwyn sicrhau bod eu haddysg ryw yn ategu'ch rôl chi fel rhiant.
Os byddai'n well gennych chi i'ch plentyn beidio â chymryd rhan mewn addysg ryw yn yr ysgol, mae gennych hawl i dynnu'ch plentyn o ran neu o'r cyfan o'r rhaglen addysg ryw ar wahân i'r rhannau hynny sydd wedi eu cynnwys yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol