BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Diddordebau

1 Rhieni gorawyddus
2 Annog diddordebau arbennig
3 Cadw'n heini

Rhieni gorawyddus

Ydych chi'n gofyn gormod gan eich plant? Yn ei lyfr Hyper-parenting, Are You Hurting Your Child By Trying Too Hard?, mae Dr Rosenfeld yn nodi peryglon gwthio plant i ribidirês o glybiau ar ôl ysgol, sesiynau nofio, hyfforddiant chwaraeon, gwersi ychwanegol, gwersi cerddoriaeth a gweithgareddau eraill sy'n cael eu trefnu.

Wrth gwrs, does dim byd o'i le mewn annog eich plant i gael amrediad eang o ddiddordebau. Y perygl yw eu bod yn mynd mor brysur, fel nad oes ganddyn nhw fawr o amser ar eu pennau eu hunain heb ddim byd arbennig i'w wneud. Mae addysgwyr ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia yn galw hwn yn 'amser diflastod' - ac yn dadlau ei fod yn bwysig iawn o safbwynt addysgol. Dyma'r unig gyfle y mae plant yn ei gael i feddwl am weithgareddau'r dydd, breuddwydio wrth eu hewyllys, synfyfyrio a gwneud rhyw fath o gynlluniau ynghylch beth y maent am ei wneud â'u bywydau - gweithgareddau sy'n bwysig iawn i'w datblygiad emosiynol a deallusol.

Felly peidiwch â bod yn rhiant gorfywiog. Mae'n braf meddwl mai un o'r pethau gorau y gallwch ei wneud i'ch plant yw dweud wrthynt am roi eu traed i fyny a gwneud dim - yn enwedig os yw'n golygu y gallwch chi wneud yr un fath!

Ehangu gorwelion

diddordebauMae plentyndod yn amser i ymarfer sgiliau newydd a mwynhau profiadau newydd, felly anogwch eich plant i ymgymryd ag amrediad mor eang o weithgareddau ag y gallant ymdopi ag ef. Mae'n ffordd dda o ehangu eu gorwelion a'u helpu i ddewis pa lwybr y maent am ei ddilyn yn y dyfodol yn y byd.

Dylai plant roi cynnig ar fod yn awduron, yn beintwyr, yn archwilwyr, yn wyddonwyr, yn gogyddion, yn bobl o faes chwaraeon, yn naturiaethwyr, yn ymgyrchwyr, yn weithwyr elusennol, yn gerddorion, yn actorion, yn ddyfeiswyr, yn entrepreneuriaid, neu'n unrhyw beth arall sy'n mynd â'u bryd.

Fel y dywedodd Oscar Wilde yn ei ddull arbennig ei hun: "Os ydy rhywbeth yn werth ei wneud, mae'n werth ei wneud yn wael."

Y peth pwysicaf am roi cynnig ar weithgareddau newydd yw bod y plant yn mwynhau eu hunain, nid ceisio dangos pa mor dda ydynt felly gwnewch yn siwr eu bod yn deall hynny. Nid yw hynny'n golygu na ddylech gadw llygad am unrhyw arwyddion fod gan eich plentyn dalent neu frwdfrydedd arbennig y gallwch helpu i'w ddatblygu.

Mae llawer o ffyrdd o annog diddordebau arbennig. Ond cofiwch y gall rhieni cydwybodol, er cystal eu cymhelliant, roi pwysau diangen arnyn nhw eu hunain ac ar eu plant drwy drio'n rhy galed. Peidiwch â bod yn rhiant gorfywiog - mae amser heb ddim byd wedi ei drefnu yr un mor bwysig.


rhan 1 o 3|123Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Ymddygiad - eich dylanwad chi
Annog diddordebau
Mae'n werth siarad
Sut mae plant yn dysgu
Annog plant i ysgrifennu
Darllen gyda'ch gilydd
Helpu gyda gwaith cartref
Plant ar y rhyngrwyd
Arian poced
Rhyw a chyffuriau
Gwybodaeth pellach
  • Addysg gartref
  • Dewis ysgol
  • Dechrau ysgol

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy