BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Diddordebau

1 Rhieni gorawyddus
2 Annog diddordebau arbennig
3 Cadw'n heini

Cadw'n heini

Mae mwy o blant a phobl ifanc dros eu pwysau ac yn gwneud llai o ymarfer corff nag erioed o'r blaen. Mae plant yn mynd yn dewach, ond nid oherwydd eu bod yn bwyta mwy. Er cymaint o demtasiwn yw bwydydd parod, dangosodd gwaith ymchwil fod y calorïau y mae eu cyrff yn ei gael ar y cyfan yn is nag yr oedd cyn 1960. Y gwir amdani yw nad ydynt yn symud cymaint. A bydd plant nad ydynt yn symud yn colli llawer o fanteision i'w hiechyd, gan gynnwys gwell systemau imiwnedd, mwy o hunan-barch, pwyso llai, llai o straen a phryder ac esgyrn iachach.

Y llynedd, dywedodd y Llywodraeth fod gan bob plentyn ysgol gynradd 'hawl' i ddwy awr yr wythnos o weithgaredd corfforol. Ond mae llawer o blant nad ydynt yn cael y gweithgaredd hwn yn ystod amser ysgol o hyd - dim ond 5 y cant o'n hysgolion cynradd sydd ag arbenigwyr addysg gorfforol, dim ond eu hanner sydd â chaeau chwarae ac mae'r nifer sydd â champfa neu bwll nofio yn llai nag un o bob 10. Mae'r amser y mae ysgolion yn ei neilltuo ar gyfer addysg gorfforol wedi gostwng yn sylweddol ers cyflwyno'r oriau llythrennedd a rhifedd. Ond mae rhai pethau y gall rhieni eu gwneud er mwyn sicrhau bod eu plant yn gorfod gwisgo'u dillad ymarfer corff yn rheolaidd.

Beth i'w wneud

  • Dylai plant fod yn symud o gwmpas am o leiaf 30 munud, 60 munud os yn bosib, bob diwrnod. Does dim rhaid i hyn olygu gweithgaredd egnïol - mae cerdded yn gyflym yn ddigon da, os yw'n gwneud i'r galon guro.
  • Pa bynnag chwaraeon rydych yn cymryd rhan ynddynt, gwnewch yn siwr eu bod yn hwyl. Ewch am dro ar gefn beic, i sblasio yn y pwll nofio lleol, i sgipio, trampolinio, llafnrolio neu sglefrfyrddio, dosbarthiadau dawns neu gymnasteg, a dod â thimau ynghyd i chwarae yn erbyn ei gilydd.
  • Mae clybiau ar-ôl-ysgol yn gyfle da i wneud ffrindiau, cymdeithasu a dod â gweithgaredd corfforol rheolaidd i fywydau plant.
  • Mae cerdded neu seiclo i'r ysgol yn ddechrau iach i'r diwrnod.
  • Mae merched nad ydynt yn gwneud llawer o ymarfer corff caled, fel rhedeg a cherdded, mewn perygl o beidio â chynyddu digon ar ddwysedd eu hesgyrn i'w hamddiffyn rhag osteoporosis yn ddiweddarach yn eu bywydau. Rhowch gynnig ar gamp lle mae angen rhedeg e.e. pêl-rwyd, hoci.
  • Cofiwch y gall gormod o ymarfer corff achosi problemau hefyd. Yn ogystal ag anafiadau 'gor-ddefnydd', mae nifer fach iawn o bobl ifanc yn datblygu bwlimia ymarfer corff, lle mae chwaraeon yn mynd yn obsesiwn.

Iechyd Plant - Y Ffeithiau

Mae pedwar o bob pum plentyn 11 oed yn bwyta sglodion bob diwrnod, ac mae un o bob pump yn bwyta sglodion ddwywaith y diwrnod, bob diwrnod, yn ôl arolwg o 800 o blant 11 oed yn ysgolion uwchradd Llanelli.

Mae 22% o'r holl blant 7-11 oed dros eu pwysau. Mae 12% o'r bechgyn ac 11% o'r merched yn yr un grwp oedran yn rhy dew.

Mae 40% o'r merched yn rhoi'r gorau i gymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol erbyn iddynt gyrraedd eu harddegau.

Bu gostyngiad yng nghyfran y bechgyn a'r merched sy'n bwyta ffrwythau ffres bob diwrnod yn 2000.

Mae merched yng Nghymru yn llai tebygol na bechgyn o fwyta brecwast, cinio a swper bob diwrnod - yn enwedig merched 15-16 oed. Cinio ysgol yw'r unig bryd poeth y mae un o bob pedwar plentyn yng Nghymru'n ei fwyta, yn ôl y Grwp Gweithredu Tlodi Plant.

Dangosodd arolwg o blant ysgol rhwng 11 ac 16 oed fod 6% ohonynt heb fwyta unrhyw ffrwythau yn ystod yr wythnos flaenorol, a bod 5% ohonynt heb fwyta unrhyw lysiau.

Ar gyfartaledd, mae plant yn bwyta llai na 13 dogn o ffrwythau neu lysiau bob wythnos, llawer llai na'r 35 dogn sy'n cael eu hargymell.

Dolenni cyswllt i'r we

Cyngor Chwaraeon Cymru. Ffôn: 029 2030 0500.

Addysg a Mwy. Ffôn: 020 8709 9900.

Sefydliad y Galon Prydain. Ffôn: 020 7935 0185.

Sefydliad Chwaraeon Ieuenctid. Ffôn: 01509 228293.

Cyngor a gwybodaeth ynglyn â bwyta'n iach, gan gynnwys canllaw syml i rieni.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


rhan 3 o 3|123Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Ymddygiad - eich dylanwad chi
Annog diddordebau
Mae'n werth siarad
Sut mae plant yn dysgu
Annog plant i ysgrifennu
Darllen gyda'ch gilydd
Helpu gyda gwaith cartref
Plant ar y rhyngrwyd
Arian poced
Rhyw a chyffuriau
Gwybodaeth pellach
  • Addysg gartref
  • Dewis ysgol
  • Dechrau ysgol

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy