O ganlyniad i bwysau gan gyfoedion i fod yn un o'r criw, neu o ganlyniad i reolau ysgol sy'n mynnu bod pawb yn cydymffurfio, am y rhan fwyaf o'r diwrnod bydd eich plentyn yn ceisio bod yr un fath â phawb arall. Gartref, ar y llaw arall, mae ganddynt ryddid i ddilyn eu diddordebau eu hunain a datblygu talentau arbennig.
Wrth gwrs, mae'n bosib na fyddant yn rhannu'r un diddordebau â chi. Ond brathwch eich tafod a byddwch yn falch bod eich plentyn wedi dod o hyd i rywbeth y mae'n ei fwynhau, a helpwch ef/hi i'w wneud. Peidiwch â phoeni ychwaith os nad yw'r diddordeb yn ymddangos yn un 'addysgol' iawn. Os yw'n arwain y plentyn i chwilio am wybodaeth, i siarad am rywbeth, i ddarllen a gwneud nodiadau, i gasglu a threfnu deunydd, bydd yn ymarfer sgiliau pwysig a fydd yn ddi-os o fudd i waith ysgol.
Anogwch eich plentyn i ddefnyddio'r llyfrgell, a helpwch ef/hi i ddod o hyd i'r safleoedd mwyaf priodol ar y rhyngrwyd. Prynwch gylchgronau arbenigol iddo/iddi. Hyd yn oed os ydynt yn ymddangos yn rhy anodd, bydd brwdfrydedd dros y pwnc yn ei gymell i ddal ati gydag iaith a chysyniadau anodd.
Ceisiwch gael eich plentyn i anelu'n uchel - er enghraifft, yn hytrach na dim ond addoli seren bop fel arwr, anogwch ef/hi i ddysgu chwarae offeryn a dod yn seren ei hun. Helpwch hwy i gredu ynddynt eu hunain: y gallant, â digon o waith caled a brwdfrydedd, wireddu eu breudwydion.
Os ydych am helpu eich plentyn i ragori mewn rhyw weithgaredd, mae digon o sefydliadau sy'n barod i helpu. Ac wrth gwrs, efallai mai'r hyn a allai ennyn y brwdfrydedd mwyaf ynddynt yw cadw anifail anwes.
Eu helpu hwy i helpu eu hunain
Mae'r teledu yn ffynhonnell ddi-ben-draw ar gyfer syniadau, ysbrydoliaeth a gwybodaeth. Ceisiwch ailddyfalu pa raglenni a allai fod o ddiddordeb i'ch plentyn ryw ddiwrnod. Recordiwch hwy ac adeiladwch eich llyfrgell fideo eich hun. Mae Alert yn cynnwys newyddion am raglenni sydd i ddod ar y BBC.
Mae llawer o adnoddau ar gael yn eich llyfrgell leol. Mae llyfrgellwyr yn aml yn dda iawn am ddod o hyd i'r union lyfr ar gyfer plentyn. Mae system fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd hefyd yn golygu y gallwch ofyn am lyfrau o lyfrgelloedd eraill. Ar gyfer llyfrau Cymraeg a llyfrau â gogwydd Cymreig edrychwch ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru.
Mae mudiadau fel y Sgowtiaid, y Geidiaid, Brigâd y Bechgyn a'r Urdd yn cyflwyno aelodau i amrediad eang o ddiddordebau amser hamdden.
Anogwch eich plentyn i ymuno ag un o'r mudiadau elusennol. Mae gan y rhai mwyaf, fel yr RSPCA, adrannau ieuenctid. Ymwelwch â Charity Choice er mwyn gweld cronfa ddata yn rhestru mudiadau gan gynnwys y rhai hynny sydd â changhennau yn eich ardal chi.
Gall mynd am dro fel teulu gyfuno hwyl â'r cyfle i ddysgu rhywbeth newydd. Mae awgrymiadau am lefydd da i fynd iddynt yng Nghymru yn Wales Directory.
Ac, wrth gwrs, mae popeth y gallai plentyn fod eisiau ei wybod am unrhyw beth dan haul ar gael rywle ar y We Fyd-eang. Gwnewch yn siwr bod eich plentyn yn gwneud y gorau o'r we.
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol