 |  |   | Llefydd y gall plant gyhoeddi eu gwaith ynddynt ar y Rhyngrwyd |  |
 | Yn yr hen ddyddiau, roedd cerddi, storïau a lluniau plant yn cael eu rhoi ar ddrws yr oergell. Heddiw, mae modd eu rhoi ar y rhyngrwyd i'r byd i gyd eu gweld. A dyna gynulleidfa sy'n ddigon mawr i ysbrydoli hyd yn oed y plentyn mwyaf digychwyn i wneud ei orau. Mae degau o safleoedd yn Unol Daleithiau America a Phrydain yn awyddus i gyhoeddi gwaith plant. Er enghraifft mae Young Writers.co.uk yn chwilio am gerddi a storïau. A hefyd Kids on the Net sy'n cyhoeddi adolygiadau a llythyrau plant yn ogystal. Bydd darpar newyddiadurwyr eisiau anelu at y dudalen flaen yn Kids News a gall arlunwyr ifanc arddangos eu campweithiau yn The Global Art Gallery. Yn hytrach na gorfod dibynnu ar unrhyw rai o'r safleoedd hyn, gallai plant fynd un cam ymhellach a chyfeirio rhywfaint o'u hynni creadigol tuag at lunio eu gwefan eu hunain. Mae Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISPs) fel arfer yn cynnig lle ar y we am ddim i danysgrifwyr, felly os oes gennych gigabeit neu ddau yn rhydd, beth am eu rhoi i'ch plant? Mae ysgrifennu ar gyfer y we yn hwyl, yn rhyfeddol o hawdd, yn gwella sgiliau TGCh plant ac, yn fwy na dim, bydd yn gwneud iddynt deimlo bod y seiberofod yn perthyn iddynt hwy hefyd. Am ganllaw sy'n nodi beth i'w wneud gam-wrth-gam, ymwelwch â bbc.co.uk Webwise. Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |  | |
|   |
|  |  |
|