BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Plant ar y We

1 Llefydd i gyhoeddi gwaith
2 Syrffio'n ddiogel
3 Bod yn effro i'r peryglon

Syrffio'n ddiogel

Yn anffodus, mae'r We Fyd-eang, fel y byd mawr ei hun, yn gallu bod yn lle peryglus. Mae rhieni'n iawn i boeni am yr hyn y gallai eu plant ei weld yno. Mae nifer o gigabeitiau wedi eu neilltuo i bornograffi difrifol, lluniau o drais, ymosodiadau hiliol, hyrwyddo camddefnyddio cyffuriau a chanllawiau manwl yn nodi sut i gyflawni pob mathau o droseddau.

Ac yn waeth byth, mae'r Rhyngrwyd wedi bod yn dir hela amlwg i baedoffiliaid sy'n chwilio am unigolion hawdd i'w dal. Yn ôl gwaith ymchwil a wnaethpwyd yn Ysgol Economeg Llundain, mae 90% o'r plant 10-16 oed wedi gweld pornograffi ar y Rhyngrwyd, ac mae dieithriaid wedi ceisio cynnal sgwrs ag oddeutu 50% ohonynt mewn ystafelloedd sgwrsio.

Ond, wrth gwrs, mae'r We Fyd-eang hefyd yn lle rhyfeddol. Ni waeth pa mor bryderus yw rhieni, ni fyddant am amddifadu eu plant o'r cyfleoedd addysgol y mae'n eu cynnig. Mae rhagofalon y gallwch eu cymryd. Mae modd rheoli syrffio'ch plant, cyfyngu ar y safleoedd y gallant ymweld â nhw, a gwneud eich plant yn ymwybodol o beryglon posibl "cyfarfod" dieithriaid ar-lein.

Rheoli ymweliadau
Mae meddalwedd soffistigedig fel Cyber Sentinel yn gweithio fel rhyw fath o Frawd Mawr ac yn cadw golwg ar y safleoedd y mae'ch plant wedi ymweld â hwy, fel bod modd i chi wybod sut yn union y maent yn treulio'u hamser ar-lein.

Mae ffordd haws: gosodwch y cyfrifiadur yn yr ystafell fyw. Os byddwch yn gwneud hynny, gallwch gadw llygad anffurfiol ar eu teithiau rhithwir a bydd plant yn mynd i'r arferiad o feddwl am syrffio fel gweithgaredd i'w rannu. Anogwch hwy i siarad am y safleoedd y maent yn ymweld â hwy, y bobl y maent yn eu cyfarfod mewn ystafelloedd sgwrsio neu'r negeseuon e-bost annisgwyl y maent yn eu derbyn. Os ydynt yn dod ar draws deunydd sy'n peri tramgwydd, trafodwch y mater gyda hwy.

Gallwch gael mwy o gyngor drwy gysylltu â GetNetWise, SafeSurf, Internet Watch Foundation, Parents' Information Network, a Chanolfan Rieni'r Adran Addysg a Sgiliau lle gallwch lwytho pecyn yn ymwneud â diogelwch ar yr uwchbriffordd i lawr.

Ac os yw'n well gennych gael llyfr hen-ffasiwn, beth am The Parents' Guide to Protecting Your Children In Cyberspace gan Parry Aftab.

Cyfyngu ar ymweliadau

cyhoeddi ar y weMae dewis eang o becynnau sydd wedi eu cynllunio er mwyn cyfyngu ar y deunydd y gellir ei weld ar y cyfrifiadur cartref. Trafodir llawer ohonynt yn GetNetWise. Fodd bynnag, cyn i chi wario arian ar unrhyw un ohonynt, mae'n werth ymweld â Parents' Information Network.

Sefydliad annibynnol yw'r PIN sydd wedi asesu 14 o'r didolwyr rhyngrwyd mwyaf poblogaidd hyn gan ddod i'r casgliad "na all rhieni ddibynnu ar unrhyw un ohonynt fel yr ateb perffaith - nid yw'r rhan fwyaf o'r rhaglenni'n gweithio mor effeithiol â'r hyn a hysbysebwyd. Nid oes unrhyw un ohonynt yn darparu ateb parhaol i rieni".

Felly peidiwch â rhoi gormod o ffydd mewn unrhyw ddarn unigol o feddalwedd. Bydd plant bob amser yn cael eu temtio i chwilio am safleoedd drwg, ond mae'n achosi llawer mwy o boen pan fônt yn dod ar eu traws yn ddamweiniol. Y ffordd hawsaf o ddelio gyda hyn yw drwy fynnu mai dim ond cyfryngau chwilio sydd â didolwr ynddynt y maent yn eu defnyddio. Mae'n debyg mai'r un gorau yw bbc.co.uk. Mae'r cyfryngau chwilio amrywiol sydd wedi eu llunio'n benodol ar gyfer plant yn well fyth.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


rhan 2 o 3|123Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Ymddygiad - eich dylanwad chi
Annog diddordebau
Mae'n werth siarad
Sut mae plant yn dysgu
Annog plant i ysgrifennu
Darllen gyda'ch gilydd
Helpu gyda gwaith cartref
Plant ar y rhyngrwyd
Arian poced
Rhyw a chyffuriau
Gwybodaeth pellach
  • Addysg gartref
  • Dewis ysgol
  • Dechrau ysgol

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy