Y ffordd orau o helpu'ch plant i wneud yn dda yn yr ysgol yw'r un sy'n rhoi'r mwyaf o bleser mae'n debyg: po fwyaf o amser rydych yn ei dreulio yn siarad gyda nhw, po fwyaf y byddant yn cynyddu mewn hyder a pho fwyaf o gyfle a gânt i ymarfer sgiliau siarad a gwrando. Mae'r sgiliau hyn yn bwysig iawn ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Mae'n syniad da dal ati i siarad pan fyddwch yn byw gyda phlant yn eu harddegau.
Sesiynau siarad
Mae bywyd teuluol fel arfer yn llawn sgwrsio brysiog, diddiwedd, ond mae'n syniad da dod o hyd i gyfleoedd rheolaidd i eistedd i lawr gyda'ch plant er mwyn siarad. Dylai'r sesiynau hyn ambell waith fod yn gyfarfodydd teuluol lle mae pawb yn cael cyfle i ddweud ei ddweud; ambell waith dylech roi'ch holl sylw i un plentyn. A pheidiwch â phoeni - fe welwch fod digon o bethau i siarad amdanynt.
Os byddwch yn gwneud y sesiynau siarad hyn yn nodwedd reolaidd o fywyd teuluol pan fo'ch plant yn dal i fod yn ifanc, mae'n debyg y byddwch yn gweld ei bod yn llawer haws cyfathrebu gyda hwy pan fyddant yn eu harddegau. Os oes gennych blant yn eu harddegau sy'n gallu siarad gyda'u ffrindiau ar y ffôn am oriau ond sydd prin yn gallu mwmian y mymryn lleiaf o eiriau unsill pan fyddwch chi yn ceisio cynnal sgwrs â nhw, beth ddylech chi ei wneud? Daliwch ati. Cadwch eich synnwyr digrifwch. Cofiwch sut oeddech chi yn eu hoed hwy. A chliciwch yma os hoffech gael cyngor di-flewyn-ar-dafod.
Gwefan ddefnyddiol:
BBC Parents. Cyngor a gwybodaeth pellach am gyfathrebu gyda'ch plentyn.
Siarad a gwrando yn yr ysgol
Efallai fod ysgolion ar un adeg yn credu mai aur pur oedd distawrwydd, ond gallwn eich sicrhau nad felly y mae heddiw. Ochr yn ochr â darllen ac ysgrifennu, mae sgiliau hollbwysig siarad a gwrando yn cael blaenoriaeth uchel gyda phlant o bob oedran ac ar draws y cwricwlwm.
Yn yr ysgol, disgwylir i'ch plentyn:
- wrando'n astud ar gyfarwyddiadau a chyngor gan athrawon
- cyfrannu'n wirfoddol i drafodaethau dosbarth
- siarad o flaen y dosbarth cyfan, yn achlysurol yn unig, ar bwnc o'i ddewis
- cydweithredu a chydweithio gydag aelodau eraill o'r dosbarth mewn gwahanol fathau o waith grwp
- ateb cwestiynau athrawon yn rhugl - yr adborth hwn yw'r ffordd fwyaf effeithiol sydd gan yr athro o weld pa mor dda y mae disgybl yn deall pethau
- cael hyder i ofyn cwestiynau i'r athro/athrawes pan fo angen.