BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Siarad

1 Mae'n werth siarad
2 Siarad gyda phobl ifanc
3 Cyngor i bobl ifanc

Siarad gyda phobl ifanc yn eu harddegau

Mae'n anodd weithiau i sgwrs lifo'n rhwydd - ac mae pobl ifanc yn eu harddegau yn medru eich gwneud chi yn fud. Dyma rai ffyrdd o gadw'r llinellau cyfathrebu ar agor:

  • Cynhwyswch eich plant mewn trafodaethau ar y penderfyniadau teuluol mawr - lle i fynd ar wyliau, pa liw i beintio'r gegin, ac yn y blaen.
  • Estynnwch yr albwm lluniau, neu dangoswch y fideo gwyliau. Mae pobl ifanc - hyd yn oed rhai blin yn eu harddegau - yn hoffi edrych yn ôl ar yr hyn ddigwyddodd yn y gorffennol
  • Defnyddiwch hen albymau lluniau i ddechrau sgwrs am hanes eich teulu. Mae gan blant bob amser ddiddordeb yn eu gwreiddiau - mae'n eu helpu i ddod i ddeall pwy ydynt
  • Trafodwch gymeriadau a llinellau stori mewn operâu sebon. Maent yn cynnig man cychwyn da i siarad am faterion moesol a chymdeithasol o bwys
  • Os ydych am i'ch plant fod yn agored gyda chi, rhaid i chi fod yn agored gyda hwy. Sut un oeddech chi yn yr ysgol? Pwy oedd eich cariad cyntaf? Oeddech chi'n cadw'ch ystafell yn daclus? Caniateir celwydd golau.
  • Meddyliwch am weithgaredd hwyliog y gallwch chi a'ch plant ei wneud gyda'ch gilydd lle mae angen trafod, gwneud penderfyniadau a gweithio mewn tîm. Bydd jig-so'n iawn ond mae gemau antur ac efelychu cyfrifiadurol yn llawer gwell
  • Cofiwch fod pob math o 'gemau siarad' y gallwch eu chwarae, gan gynnwys fersiwn eich teulu chi o raglenni radio a theledu fel Just A Minute. Wrth gwrs, mae Call My Bluff yn un gêm mae pobl ifanc a'u rhieni'n ei chwarae o hyd - pa un a ydynt yn sylweddoli hynny ai peidio.

Beth os nad yw'ch plant eisiau siarad gyda chi?

Cyn i chi ddechrau tynnu gwallt eich pen wrth boeni beth sy'n bod ar eich plant, treuliwch funud neu ddau yn rhoi eich hun yn eu hesgidiau hwy. Fyddech chi'n hoffi siarad gyda rhywun sydd...

  • bob amser eisiau dechrau sgwrs ar adeg sy'n gweddu iddynt hwy - fel arfer pan ydych chi ar fin gwylio'ch hoff raglen?
  • yn troi pob sgwrs yn fonolog o hyd ac o hyd, gan ei defnyddio fel cyfle i bregethu a beirniadu?
  • bob amser yn cymryd yn ganiataol ei fod yn gwybod yn well, dim ond am ei fod yn digwydd bod yn hŷn?
  • yn dweud wrthych eich bod yn ymddwyn yn fabïaidd pa bryd bynnag rydych yn mynegi safbwynt sy'n wahanol i'w un ef/hi?
  • rywsut neu'i gilydd yn llwyddo i droi pob sgwrs i gyfeiriad beth rydych chi'n ei wisgo a faint o lanast sydd yn eich ystafell wely?
  • yn methu peidio â chywiro'ch gramadeg, eich iaith sathredig a'ch tuedd i ddweud 'so'?

Efallai fod adegau pan fyddwch eisiau rhoi'ch troed i lawr, ond ceisiwch wneud yn siwr eich bod y rhan fwyaf o'r adeg rydych yn sgwrsio gyda'ch plant, yn dangos yr un cwrteisi a pharch tuag atynt hwy ag y byddech yn ei ddangos tuag at eich ffrindiau. A sut ddylent hwy eich trin chi?


rhan 2 o 3|123Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Ymddygiad - eich dylanwad chi
Annog diddordebau
Mae'n werth siarad
Sut mae plant yn dysgu
Annog plant i ysgrifennu
Darllen gyda'ch gilydd
Helpu gyda gwaith cartref
Plant ar y rhyngrwyd
Arian poced
Rhyw a chyffuriau
Gwybodaeth pellach
  • Addysg gartref
  • Dewis ysgol
  • Dechrau ysgol

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpfromhome-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy