Pwnc sy'n gallu arwain at ffrae. Rydych yn gwybod bod rhaid i chi helpu'ch plentyn i fod yn annibynnol drwy roi rhywfaint o arian poced iddo, ond gormod, dim digon, pa mor aml? Dyma rai syniadau.
Faint?
Un o'r cwestiynau hynny y mae'n amhosib eu hateb. Does dim pwynt i chi holi'ch plant - maen nhw'n siwr o ddweud wrthych chi fod pob plentyn arall yn y byd yn cael mwy o bres poced na nhw. Gallech seilio'ch penderfyniad ar un o'r arolygon arian poced sy'n ymddangos yn rheolaidd yn y cyfryngau. Ond rhaid ystyried y canfyddiadau hyn, sy'n seiliedig ar gyfweliadau gyda phlant, â phinsied hael iawn o halen. Nid yw plant fyth mor ddibynadwy ag y gallent fod pan fônt yn achwyn a/neu'n ymffrostio am eu gallu i wario. Cyn penderfynu faint i'w roi i'ch plant, eglurwch ar gyfer beth y mae'r arian poced i fod.
Pa mor aml?
Gallech osgoi'r broblem drwy roi arian iddynt pa bryd bynnag y mae'r angen yn codi. Ond mantais lwfans rheolaidd yw bod plant yn cael profiad o reoli eu harian eu hunain. Er ei bod yn anodd peidio â chynnig cyngor na ofynnwyd amdano, mae bob amser yn well gadael i'ch plant wario'u harian ar beth bynnag y maent yn dewis ei wario. Mae ganddynt hwy, hefyd, hawl i ychydig bach o faldod drwy gyfrwng therapi prynu heb rwystr.
Mae llawer o blant yn cael gwaith er mwyn cael arian poced ychwanegol. Gall hyn eu dysgu i beidio â dibynnu ar bobl eraill a'u paratoi ar gyfer yr adeg pan fyddant yn gweithio. Ond os yw plant yn ennill arian, gwnewch yn siwr fod unrhyw waith cyflogedig yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol.
Arolygon arian poced
Dangosodd arolwg a wnaethpwyd yn 2001 fod plant Cymru'n derbyn £2.48 yr wythnos ar gyfartaledd - mae hynny'n llai na phlant mewn unrhyw ran arall o'r DU, lle'r oedd y cyfartaledd ar gyfer merched yn £2.90 yr wythnos ac ar gyfer bechgyn yn £2.72.
Yn ôl un adroddiad gan y BBC:
- mae 29% o'r bechgyn ac 20% o'r merched yn gwario'u harian poced i gyd yn yr wythnos y maent yn ei gael
- mae 29% o'r bechgyn, ond dim ond 12% o'r merched, yn gweithio hyd at ddwy awr yr wythnos yn gwneud gorchwylion er mwyn ennill arian
- mae dros 30% o'r arian poced yn cael ei wario ar felysion a siocled.
Ymddengys mai'r merched sy'n cael y fargen orau yma!
Mae adroddiad arall gan y BBC yn cynnwys barn plant am arian poced.