 |  |   | Cyngor i bobl ifanc sy'n poeni am eu rhieni |  |
 | Ydy'ch rhieni chi wedi cyrraedd yr oed anodd yna pan mae hi bron yn amhosibl i chi gael sgwrs gall gyda nhw? Byddwch yn amyneddgar. Ceisiwch beidio â bod yn rhy feirniadol, yn enwedig ynghylch eu dillad a'u dewis o gerddoriaeth. Cofiwch eu bod yn bobl sydd:
- yn ystyried y diwrnod y dywedoch eich gair cyntaf fel un o ddyddiau hapusaf eu bywydau. Ac a fyddai yn awr wrth eu boddau'n eich clywed yn dweud llawer iawn mwy o eiriau - mewn brawddegau trefnus, os yn bosib, nad ydynt yn dechrau gyda "Ga' i"
- efallai ei bod yn anodd credu, ond roedden nhw'n ifanc ar un adeg
- wedi treulio cymaint o amser yn gorfod meddwl drosoch chi, nes eu bod, fel y gallwch ddychmygu, yn anghofio weithiau eich bod chi'n gallu meddwl drosoch eich hun erbyn hyn. Mae'n nhw, o ddifrif, yn ddiolchgar iawn ac yn falch iawn eich bod yn gallu gwneud hynny
- weithiau'n gallu bod yn fyr eu tymer, yn sarcastig, yn ffroenuchel, ac yn dweud pethau heb feddwl a theimlo'n edifar yn nes ymlaen efallai
- yn meddwl y byddai'n well pe na bai eu plant yn mynnu troi pob sgwrs yn unochrog, gan ei defnyddio fel cyfle i bregethu a doethinebu. Wrth gwrs, nid pobl ifanc yn unig sy'n euog o hyn.
|  | |
|   |
|  |  |
|