Beth yw "cyffur"?
Sylwedd sy'n effeithio ar y ffordd y mae'r ymennydd neu rannau eraill o'r corff yn gweithio yw cyffur. Gall cyffuriau fod yn gyfreithlon neu'n anghyfreithlon - mae meddygon yn rhoi moddion cyfreithlon ar bresgripsiwn drwy'r adeg.
Ond mae camddefnyddio sylweddau cyffuriau ac alcohol yn nodwedd gyffredin o fywydau cyfran helaeth o blant a phobl ifanc.
Beth yw'r sefyllfa?
Mae llawer o ddryswch a gwybodaeth anghywir am gyffuriau, ac mae'r sefyllfa'n cael ei gwaethygu'n aml gan straeon anghywir sydd wedi eu gorliwio yn y newyddion.
Nid yw defnyddio cyffuriau anghyfreithlon wedi ei gyfyngu i un grwp cymdeithasol, oedran, neu ryw, ac mae'n digwydd mewn ardaloedd gwledig a threfol.
Mae'n bwysig cadw pethau yn eu cyd-destun - nid yw camddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn rhan arferol o fywydau'r rhan fwyaf o bobl ifanc. Nid yw llawer o'r bobl ifanc sy'n arbrofi gyda chyffuriau yn dal ati i'w defnyddio.
Poeni?
Mae llawer o ffynonellau lle gallwch gael gwybodaeth am gymryd cyffuriau, felly does dim rhaid i ni ailadrodd popeth yma. Os ydych yn poeni y gallai'ch plentyn chi fod yn cymryd cyffuriau, ymwelwch â safwe'r BBC am wybodaeth a chyngor am gyffuriau.
Gwefannau eraill
National Drugs Helpline
Cyngor a gwybodaeth yn arbennig ar gyfer pobl ifanc.
Trashed
Gwybodaeth cynhwysfawr ynglyn â effeithiau defnyddio gwahanol gyffuriau.
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol