 |  |   | Pennwch ffiniau |  |
 | Mae ar blant angen gwybod pa mor bell y gallant fynd. - Gwnewch reolau ar gyfer y cartref. Beth sy'n rhesymol? Beth sy'n bwysig i chi? Peidiwch â cheisio cael 100 rheol ar gyfer popeth, y cyfan y mae hynny'n ei wneud yw achosi dryswch i chi a'ch plentyn a byddwch yn eu hanghofio. Ysgrifennwch rai o'r prif bethau sy'n bwysig ar hyn o bryd.
- Gwnewch yn siwr eu bod yn gwybod beth yw 'rheolau' y cartref, a gwnewch y ffiniau'n glir - peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd eich plentyn yn gwybod beth ydynt.
- Trafodwch gyda'r plentyn beth fydd yn digwydd os bydd yn torri'r rheolau. Gallech ganiatáu i'r plentyn ddewis canlyniadau ei weithredoedd ('Beth wyt ti'n meddwl ddylai dy gosb di fod os wyt ti'n gwneud peth a peth?'). Yn aml iawn bydd plant yn meddwl am gosbau llawer gwaeth na chi!
- Mae'r rheolau ar gyfer pawb sydd yn y cartref - nid y plentyn drwg yn unig, ac mae angen iddo ef weld bod y rheolau ar gyfer pawb.
Dweud y drefn, cosbi a gwobrwyo Lle bo angen cosbi plentyn, gweithredwch ar sail yr hyn sy'n briodol i bob plentyn, nid ar sail yr hyn sy'n 'deg' i bawb - allwch chi ddim ennill honno! Mae gan bob plentyn gryfderau a gwendidau gwahanol, felly efallai y bydd angen gwahanol ddulliau gweithredu ar gyfer pob plentyn a'i ymddygiad penodol. Meddyliwch a oes angen gwobrwyo neu wrthod rhywbeth. Weithiau mae gwobrwyo un plentyn am welliant bach yn cael yr un effaith â chosbi un arall. - Peidiwch â dweud y drefn wrth eich plentyn o flaen ei gyfoedion neu ei frodyr a'i chwiorydd.
- Peidiwch byth â bychanu'ch plentyn yn gyhoeddus - y cyfan a wna fydd dal dig tuag atoch. Cofiwch fod angen i'r ffordd rydych yn disgyblu ddatblygu ei hunan-barch, nid ei leihau.
- Ceisiwch dynnu plentyn o sefyllfa lle mae'n ymddwyn yn ddrwg, er mwyn iddo gael amser i adennill rheolaeth a hunanfeddiant.
- Ceisiwch adnabod arwyddion cynnar ffrwydriad, ac ennill y blaen arno cyn iddo ddigwydd.
- Ffrwynwch eich hun yn hytrach na dal i ddadlau.
- Os ydych yn atal plentyn rhag mynd i rywle, dewiswch adeg briodol y gallwch gadw ati ac sy'n deg o gymharu â'r ymddygiad.
- Anelwch tuag at ennill breintiau, neu wobrwyo mewn ffordd fwy uniongyrchol. Gyda phlentyn bach, rhowch gynnig ar siart sêr am ymddygiad da - gall hyn weithio am gyfnod, ond gwnewch yn siwr bod y targedau o fewn ei gyrraedd er mwyn iddo gael ei sêr. Gall system bwyntiau weithio gyda phlant hŷn, os ydynt yn cynilo er mwyn prynu eitem - ond unwaith eto, cadwch y targedau o fewn eu cyrraedd.
Gwefan ddefnyddiol: Parentline plus. Cyngor a gwybodaeth am ddisgyblu plant. Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |  | |
|   |
|  |  |
|