 | 
![]()
|  | Arddangoswr: Virginia Graham "Mae gan bawb wrthrychau ac eiddo y maen nhw'n eu gwerthfawrogi'n fawr ac yn teimlo'n angerddol yn eu cylch. "Yn aml nid yw'r pethau hyn yn werthfawr yn nhermau ariannol; yn hytrach, pethau pob-dydd ydyn nhw, pethau sydd yn ysgogi atgofion a phrofiadau. "Am y rheswm hwn maen nhw'n cael statws uwch nag a fwriadwyd iddyn nhw yn wreiddiol.
 "Mae fy sylw yn cael ei dynnu at y casglwr sydd yn crynhoi pethau, ac sy'n gwneud hynny'n fwriadol. "Rwy'n cael fy swyno gan y ffordd y mae potiau a llestri te, a gafodd eu gwneud i'w defnyddio, yn cael eu casglu a'u harddangos y tu ôl i wydr rhag ofn y bydd eu statws newydd yn cael ei fradychu pe baent yn cael eu defnyddio."Rwy'n defnyddio cyfuniad o gastio slip a thechnegau adeiladu-â-llaw i greu ffurfiau gyda llawer o elfennau, gan ail-greu gwrthrychau yn aml a'u gosod y tu allan i'w cyd-destun. "Mae eu harwynebedd yn cyfeirio at ddeunyddiau iwtilitaraidd o hanes crochenwaith diwydiannol diweddar. "Mae trosglwyddiadau blodeuog a sgleiniau metalaidd yn ychwanegu'r cyffyrddiad terfynol er mwyn creu darnau eclectig sy'n werthfawr ac yn gasgladwy ond sydd eto yn gyffredin ac yn gyfarwydd."
|
 |