 | 
![]()

![]()

![]()
|  | Arddangoswr: Tricia McParlin "Rwy'n gweithio o ffynonellau gweledol a rhai personol, o ffotograffau, astudiaethau ac o agweddau ar fy ngwaith ysgrifennu a'm cerddoriaeth fy hun.
 "Ar hyn o bryd rwy'n canolbwyntio ar y grym sydd gan y broses o greu delweddau i fynd y tu hwnt i ffiniau. "Gall fod mewn dau le o leiaf ar unwaith; yn fewnol neu'n allanol, yn bersonol neu'n gyffredinol, yn real neu'n ddychmygol, yn y presennol ac yn y gorffennol. "Mae hefyd yn cynnig y cyfle i gyfosod meddwl ac emosiwn am fan naturiol yn uniongyrchol, yn pylu'r gwahaniaethau a orfodwyd arnom rhwng yr hyn a welir a'r hyn a ddychmygir, ei weld a'i gofio, mewn mynegiant all fod yn farddonol ac yn llythrennol ar yr un pryd. "Rwy'n parhau i archwilio iaith weledol bersonol sy'n fy arwain yn gyson i'r diriogaeth hwn 'ar y ffin' . "Yma, yn y bylchau rhwng diffiniadau lle y gall grymoedd gwrthgyferbyniol fyw, yr wyf yn teimlo fwyaf cartrefol."
|
 |