Arddangoswr: Susan Dalladay "Rwy'n cynhyrchu fy ngherfluniau drwy gasglu darnau tebyg o ddeunydd planhigion sy'n aml wedi dod i ddiwedd eu hoes. "Bydd y darnau unigol hyn o welltglas, helygen, hadau ayyb. yn cael eu casglu ynghyd i greu ffurf newydd, sy'n dibynnu ei hun, i ryw raddau, ar gyfeiriad at batrymau naturiol.
"Bydd y cerfluniau'n aml yn ymdebygu i'r lliw, y golau a'r ffurf a welir ym myd natur. "Maent yn cynrychioli syniadau am y byd naturiol mewn modd gweledol.
"Maent yn ceisio rhoi ffurf gorfforol i syniadau am drefn a chyfansoddiad cymhleth natur a pha mor bwysig yw'r rhannau lleiaf un o ran y modd y mae'r cyfan yn gweithio.
"Yn yr un modd, ymateb ydynt i rythmau a synhwyrau'r byd naturiol ac y maent yn ceisio ymgorffori'r ysbryd hwn."
Katrina Allen Enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth 2002.
Paul de Hoxar Arddangoswr yn yr Adran Bensaernïaeth yw Paul de Hoxar. Roedd Vincent Bouvellec, Brian Evans, Ian Eggleton a Corin Yarrow wedi cynorthwyo Paul gyda'i brosiect, ac mi fyddai'n hoffi cydnabod eu rhan yn y gwaith.
Pembroke Design Cyf Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).