 | 
![]()
|  | Arddangoswr: Rozanne Pibworth Hawksley "Rwy'n ceisio delio â themâu o unigrwydd a dioddefaint sy'n dilyn rhyfel, salwch, tlodi a marwolaeth a chamddefnyddio grym.
 "Mae llawer o'r symbyliad ar gyfer y rhain yn deillio o fy mhrofiadau i fy hun ac eiddo fy nheulu. "Mae addurniadau'n ymwneud â'r meirw, y rhai sydd wedi eu hanafu a'r rhai hynny sy'n galaru ac y maent yn adlewyrchu'r dioddefaint a'r gofid dibendraw sydd yn y byd oherwydd yr ysfa am ddial, trachwant a grym. "Mae pob un o'r paneli'n tarddu o darian goffa, lle mae gweddillion esgyrn wedi cael eu gosod, eu clymu'n dynn a'u gorchuddio'n ysgafn ag edau a deunydd du."
|
 |