Arddangoswr: Robert Harding Yn fwy cyfarwydd fel cerflunydd, daeth Robert Harding i ymwneud mwy â chynhyrchu pethau ymarferol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fel y tair bowlen fetel a ddewiswyd ar gyfer Arddangosfa Gelf a Chrefft Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2002. Mae ei ddiddordeb mewn celfyddyd gain a phethau ymarferol wedi arwain yr arlunydd i ymchwilio i waith arlunwyr modern ac ôl-fodern sydd wedi gweithio yn y naill begwn a'r llall.
Drwy ymchwil o'r fath mae wedi darganfod nifer o arlunwyr gweledol eraill yng Nghymru sy'n rhannu'r un diddordeb.
Bydd canlyniadau'r gwaith hwn i'w gweld mewn arddangosfa symudol o'r enw Fine to Functional a drefnir ar gyfer 2003-2004 gan Ganolfan Celfyddydau Llantarnam Grange, Cwmbran.
Katrina Allen Enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth 2002.
Paul de Hoxar Arddangoswr yn yr Adran Bensaernïaeth yw Paul de Hoxar. Roedd Vincent Bouvellec, Brian Evans, Ian Eggleton a Corin Yarrow wedi cynorthwyo Paul gyda'i brosiect, ac mi fyddai'n hoffi cydnabod eu rhan yn y gwaith.
Pembroke Design Cyf Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).