"Mae gen i ddiddordeb yn y swyddogaeth sydd gan ddeunyddiau yn ein bywydau a sut y maent yn ein cysylltu ni â'r amgylchedd. "Mae'r deunyddiau y byddaf yn eu defnyddio yn rhai lleol, yn adnewyddadwy, yn fioddiraddadwy ac yn cael eu cynaeafu'n gynaliadwy.

"Mae'r rhain yn fy ngalluogi i archwilio'r amgylchedd. "Fwy a mwy, nid yw'r deunyddiau rydym yn eu defnyddio yn adlewyrchu'r deunyddiau sydd i'w cael o'r tirwedd o'n cwmpas, boed ni'n byw bywyd trefol neu wledig.
"Rwy'n ceisio archwilio hyn yn fy ngwaith gan edrych ar adnoddau lleol a'u dathlu.
"Portread o'r aber ym Melin Lanw Caeriw yn Sir Benfro yw Tirlun Cymreig Llwyd.
"Fe'i gwnaed o wlân a deunyddiau y deuthum ar eu traws, Crwyd y gwaith un diwrnod llwyd a gwlyb o hydref.
Yng Nghaeriw, mae argae'r felin lanw'n rhannu'r aber yn ddwy yn artiffisial: i lawr yr afon mae gwymon ac adar môr; i fyny'r afon mae dwr afon islaw coetir collddail. "Mae'r gwlân ffeltiog yn cynnwys darnau o ddeunyddiau y deuthum ar eu traws o'r ddau fan hwn. "