 | 
![]()

![]()
|  | Arddangoswr: Ken Elias Bu gan fy mhaentiadau rhywbeth i'w ddweud erioed, stori i'w hadrodd, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r stori hon wedi mynd yn fwy personol. Datblygodd golygfeydd rwy'n eu cofio o fy mhlentyndod yn ddelweddau sy'n cael eu hailadrodd.
 Nid yw'n syndod fod hyn wedi digwydd tua'r un amser ag y gwnes i ddychwelyd i fyw ger y ty lle treuliais fy mhlentyndod - union gyferbyn âr ty ller oedd fy mam-gu yn byw yn y 1950'au cynnar. Roedd ei thy yn cefnu ar barcdir lle y bum yn gweithio fel plentyn, a lle mae sinema yn Neuadd Les Glowyr Glyn Nedd, lle bu fy modryb yn gweithio fel tywyswraig.Fel oedolyn, mae'r lleoliadau hyn yn dal i ddwyn atgofion ac y maent yn fannau sy'n esgor ar baentiadau dro ar ôl tro. Gellir dweud fod ailymweld â'r tirnodau cynnar hyn, lle bum yn chwarae'n rhydd fel plentyn, wedi fy ngalluogi i gymryd rhan mewn math arall o chwarae. Mae hyn yn ffurf creadigol ar chwarae sydd, fel chwarae plant, yn rhydd o gaethiwed rhesymeg neu synnwyr cyffredin, ond sydd o natur aeddfed yn ddigamsyniol.
|
 |