Arddangoswr: John Uzzell Edwards Ers canol yr 80au, pan wnes i ddechrau astudio meini hirion, bum yn gweithio ar gyfres o baentiadau a darluniau sydd â chyswllt pendant. Carreg Llywel oedd y maen hir cyntaf y gwnes i baentiad ohono ac erbyn hyn y mae wedi ei leoli yn yr Amgueddfa Brydeinig. Dilynwyd hyn gan gyfres o baentiadau a seiliwyd ar ddelweddau'n deillio o feini hirion ledled Cymru. Yna, yn neuadd fawr Abaty Nedd mi wnes i ddarganfod llawr teils ardderchog o'r 12fed ganrif; hela ac ymwanu oedd y testun.
Roedd fel pe bai delweddau'r ymwanu'n perthyn i gyfres Warrior blaenorol, wedi ei ysbrydoli gan gyfres newydd hollol o weithiau.
Mae'n ymddangos eu bod i gyd yn ymwneud â 'phaentio' yn hytrach na 'gwneud lluniau'. Maent yn perthyn i lawysgrifau rwyf wedi eu hastudio yn Iwerddon a Chymru. Maent fel pe baent yn gwau ac yn ymdroelli fel stori o'r Mabinogi, cwlwm Cymraeg neu ganu penillion.
Katrina Allen Enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth 2002.
Paul de Hoxar Arddangoswr yn yr Adran Bensaernïaeth yw Paul de Hoxar. Roedd Vincent Bouvellec, Brian Evans, Ian Eggleton a Corin Yarrow wedi cynorthwyo Paul gyda'i brosiect, ac mi fyddai'n hoffi cydnabod eu rhan yn y gwaith.
Pembroke Design Cyf Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).