 | 
![]()

![]()
|  | Arddangoswr: James Charlton Gan fy mod yn byw a gweithio mewn dinas, byddaf yn cymryd hoe i weithio'n syth o'r tirwedd ar sail reolaidd. Tra'n paentio ar leoliad rwy'n cael fod yn rhaid i mi gwblhau astudiaethau bychan, personol a byddaf hefyd yn tynnu lluniau polaroid fel ffynhonnell yn y fan a'r lle.
 Yr emosiynau sydd i'w teimlo yn y tirwedd sy'n arwain fy mhaentiadau o'r dechrau i'r diwedd. O gamu'n ôl i'r stiwdio byddant yn cael eu rheoli gan y darnau bychan, y ffotograffau a chan y cof. Drwy weithio yn y dull hwn, rwy'n ymladd brwydr rhwng haniaeth a darlun, a bydd y delweddau gorffenedig yn gorwedd rhywle yn y canol rhwng y ddau fel arfer. Yn aml, tra'n gweithio, daeth yn arfer gennyf i gynhyrchu cyfres o baentiadau du a gwyn ochr yn ochr â'm gwaith mewn lliw, sy'n cael yr effaith o ganolbwyntio mwy ar ddarlunio ac ar arsyllu uniongyrchol. Mae gweithio mewn dull disgrifiadol a haniaethol yn rhywbeth gwrthgyferbyniol, ac eto yn y bwlch hwn rhwng y ddau y mae fy niddordeb pennaf.
|
 |