Cwrs pennaf fy ngwaith dros y deng mlynedd ddiwethaf ywr ymgais i ddadansoddi a chreu eiconau o fywyd Cymru ar drothwy canrif newydd. Ceir yma greaduriaid mytholegol ynghyd â rhai ffug-fytholegol.

Dyma'r twrch trwyth o'r Mabinogi sy'n ein hatgoffa o eiriau'r bardd R.S. Thomas sy'n sôn am larpio ar gorff rhyw hen gân. Efallai mai'r syniad o Gymru yw'r hen gân y sonir amdani yma. Yna mae creadur yn cyplysu penglog y Fari Lwyd gyda chorff ci (corgi Cymreig) a gafr (symbol filwrol) mewn rhyw berfformiad lled ddychmygol tebyg iawn hwyrach i ddefodau Gorsedd y Beirdd ar Faes yr Eisteddfod.
Mae darlun arall yn trafod Cymru fel ynys ar y gorwel. Byd gwell tybed neu ynys sy'n byw yn ein dychymyg fel Ynys Gwales? Hwyrach mai ein dychymyg ni sydd ar yr ynys honno, fel y saith arwr yn stori Branwen yn y Mabinogi. Tybed ai fel hyn y mae llunio delweddau cenedlaethol?