"Mae'r gosodwaith yn edrych ar wreiddiau astudiaethau natur cyfoes fel y'i sefydlwyd yn y ddeunawfed ganrif. "Y syniad canolog wrth wraidd y strwythur newydd hwn ar gyfer gwybodaeth oedd system o enwi gan 'arbenigwyr' a dosbarthiad wedi ei seilio ar nodweddion strwythurol.

"Roedd sawl system yn cystadlu ledled Ewrop - y sawl a ddaeth i'r brig oedd Carolus Linneaus a'i Systema naturae binomaidd. "Gyda'i gilydd mae'r set hwn o ddelweddau'n dathlu amrywiaeth natur drwy awgrymu bod gwybodaeth gyflawn yn amhosibl. "Mae fy mhrif ddiddordeb mewn archwilio'r gweithiau hynny sydd wedi eu lleoli allan o olwg y cyhoedd, wedi eu storio mewn archifau ac ym "mannau caedig" sefydliadau.
"Gall yr 'arddangosion' hyn fod wedi eu storio oherwydd diffyg lle i'w harddangos yn ffurfiol, efallai nad ydynt yn cael eu hystyried yn addas i'w gweld gan y cyhoedd yn gyffredinol neu efallai eu bod yn esiamplau sydd angen eu hatgyweirio a phe byddent yn cael eu harddangos byddent yn mynd yn groes i'r hyn y mae pobl yn ei ystyried yw swyddogaeth y sefydliadau.
"Mae'r gwaith yn ceisio cyfleu pa mor amhosibl yw diffinio natur yn gyflawn - bydd y sawl sy'n gwylio yn cael ei lorio gan faint yr wybodaeth a'r manylion.