 | 
![]()
|  | Arddangoswr: Elspeth Owen Crochenydd wedi ei hyfforddi ei hun yw Elspeth Owen sydd wedi dyrchafu'r dechneg fwyaf sylfaenol o wneud llestri cerameg yn arfer cywrain ac uchelgeisiol.
 Mae ei medr technegol wrth binsio yn sylweddol, ac mae'n defnyddio'r dull hwn ar raddfa ehangach o lawer nag unrhyw grochenydd arall. Mae wedi cyfuno cerameg â gweithgaredd gwleidyddol arall fel ffeminist ac ymgyrchydd dros heddwch, ac y mae hefyd yn ymdrin â ffotograffiaeth, fideo, gosodiad a pherfformiad. Mae ei gwaith fel crochenydd yn gwbl annatod oddi wrth elfennau eraill yn ei bywyd; gyda phob un ohonynt ei ddiddordeb yw 'darganfod dulliau o fod yn gryf ac yn feddal hefyd'.
|
 |