Arddangoswr: Duncan Ayscough Byddaf bob amser yn cael fy nghyfareddu gan y modd y mae clai yn cael ei dylino ar droell y crochenydd, gan gofleidio ei ryddid a'i gyfyngiadau. Y symudiad llyfn o ran ffurf a strwythur sydd i'w gael ar droell y crochenydd yw'r hyn rwy'n ei obeithio ei adlewyrchu yn y gwaith terfynol .
Mae'r cydbwysedd main rhwng rheolaeth ac anhrefn yr un mor bwysig i mi wrth gynhyrchu ffurf ac ystyried yr arwyneb.
Fy uchelgais yw y bydd fy ngwaith yn atgof o brofiad; i'r clai, y cof corfforol o'r broses y bu trwyddo; i mi, atgof o'r broses greadigol o wneud rhywbeth ac i'r sawl sy'n gwylio, ymdeimlad o brofiad synhwyrus y broses greadigol hon.
Katrina Allen Enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth 2002.
Paul de Hoxar Arddangoswr yn yr Adran Bensaernïaeth yw Paul de Hoxar. Roedd Vincent Bouvellec, Brian Evans, Ian Eggleton a Corin Yarrow wedi cynorthwyo Paul gyda'i brosiect, ac mi fyddai'n hoffi cydnabod eu rhan yn y gwaith.
Pembroke Design Cyf Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).