Arlunydd gweledol yw David Hastie sy'n defnyddio techneg theatrig o gyflwyno er mwyn creu gosodiadau a cherfluniau ar gyfer safleoedd penodol.

Mae'n gweithio â chymysgedd detholiadol o ddeunyddiau yn amrywio o drawstiau rheilffordd, planciau sgaffaldwaith a thywod i haearn rhychog a hen blwm toi. Mae'r deunyddiau'n cael eu hadennill o'i amgylchedd gwledig ef ac o ddiwydiant lleol.
Ymhlith ei brosiectau diweddar creodd wyth 'mynydd o dywod' gyda chestyll plwm ar eu copaon yn Uwchgynhadledd y G8 ar yr Amgylchedd yn Trieste, Yr Eidal a gosodwaith mewn oriel ar safle penodol yn anialwch canoldir Awstralia.
Mae ei waith Etifeddwyd, sy'n cael ei arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2002 yn Nhyddewi yn dwyn ynghyd llawer o'i ddiddordebau esthetig ac y mae'n ddatganiad ynglyn ag effaith etifeddiaeth ddiwylliannol a phersonol.