Arddangoswr: David Garner Mae'n debyg fy mod i wedi treulio hanner fy mywyd yn cynhyrchu gwaith celf erbyn hyn a byddaf yn parhau i wneud hynny hyd nes i mi farw, yn wahanol i swyddi eraill lle mae rhywun yn dal ati nes y daw ymddeol yn rhywbeth y gallant ei fforddio. Mae'n rhaid bod hyn yn gyfraniad cadarnhaol i unrhyw gymdeithas. Rhywun sy'n buddsoddi'n annibynnol yn niwylliant gwlad a byd ehangach, gobeithio. Felly pam nad oes neb yn buddsoddi mewn rhywun fel fi? Pe bawn i'n gwneud ymchwil i'r broses o gynhyrchu hwfer er enghraifft, byddai rhywun yn buddsoddi yn hynny. Mae fy ngwaith i ar fenthyg yn yr Eisteddfod hon yn rhad ac am ddim. A dweud y gwir fe dalais i ffi er mwyn i'm gwaith gael ei ystyried i'w ddewis. Pa weithiwr arall mewn cymdeithas wâr sy'n cynnig ffrwyth ei lafur yn rhad ac am ddim? Mae'n bryd i'r arlunwyr ddod ynghyd!
Katrina Allen Enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth 2002.
Paul de Hoxar Arddangoswr yn yr Adran Bensaernïaeth yw Paul de Hoxar. Roedd Vincent Bouvellec, Brian Evans, Ian Eggleton a Corin Yarrow wedi cynorthwyo Paul gyda'i brosiect, ac mi fyddai'n hoffi cydnabod eu rhan yn y gwaith.
Pembroke Design Cyf Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).