Arddangoswr: Daniel Crawshaw Dechreuais ar y gwaith o gynhyrchu'r paentiadau o'r caeau yn ystod argyfwng y traed a'r genau. Gan fy mod yn byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad, roedd y ddelwedd o gae gwag yn un real iawn, yr un mor rymus i mi â'r delweddau grotésg o anifeiliaid yn cael eu difa. Roedd nifer o emosiynau'n gyffredin ledled y wlad; arswyd, dryswch, diamydferthwch. Roedd y gair 'pla' yn dwyn i gof drychineb hanesyddol tra roedd newyddion am amhendantrwydd gwleidyddol sylfaenol yn treiddio drwy'r cyfryngau. Roedd y synnwyr o glawstroffobia yn nerthol iawn. Daeth y motiff o'r cae niwlog yn rhwydd felly, yr amgylchiadau'n awgrymu na fyddai unrhyw newid yn syth, anghytundeb ffurfiol; y ddelwedd yn wag, yr awyrgylch yn llawn.
Katrina Allen Enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth 2002.
Paul de Hoxar Arddangoswr yn yr Adran Bensaernïaeth yw Paul de Hoxar. Roedd Vincent Bouvellec, Brian Evans, Ian Eggleton a Corin Yarrow wedi cynorthwyo Paul gyda'i brosiect, ac mi fyddai'n hoffi cydnabod eu rhan yn y gwaith.
Pembroke Design Cyf Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).