Arddangoswr: Daniel Backhouse "I mi fe ddatblygodd paentio'n un broses hirfaith o gamgymeriadau ac ymdrechion niferus a ysbrydolwyd gan y tir a'r môr o gwmpas a'r profiad o fod y tu allan yn ei ganol i gyd. Fy ngobaith yn y pen draw yw fod yr holl ymdrechion yn arwain at gyfanrwydd sy'n cael ei fowldio'n ddelwedd a honno, i mi, yn cynnwys elfen o'r tu allan ynddi." Mae Daniel Backhouse yn rheoli ei gyfrwng o olew, acrylig a siarcol yn reddfol, gan roi i'r gwyliwr olygfa aflywodraethus o ddwr, awyr a daear yn cael eu rhyddhau, a'r rheini'n gwrthdaro ac yn cael eu caboli'n siâp telynegol gan y broses ddeublyg o greu a dileu haenau crawennog o baent.
Yn aml bydd hyn yn esgor ar ddau neu fwy o arwynebau sy'n siglo, sy'n ymdoddi'n len befriog ryfeddol o ysgafn, gan godi ysbryd rhywun uwchlaw cyfyngiadau'r paent.
Katrina Allen Enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth 2002.
Paul de Hoxar Arddangoswr yn yr Adran Bensaernïaeth yw Paul de Hoxar. Roedd Vincent Bouvellec, Brian Evans, Ian Eggleton a Corin Yarrow wedi cynorthwyo Paul gyda'i brosiect, ac mi fyddai'n hoffi cydnabod eu rhan yn y gwaith.
Pembroke Design Cyf Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).