Arddangoswr: Christine Mills Cefais fy ngeni ym Maldwyn, lle ganwyd fy rhieni, fy neiniau a theidiau a fy hen neiniau a hen deidiau hefyd. Fe'm magwyd yn Llangadfan ond erbyn hyn rwy'n byw ar ffarm fynydd ger Y Foel.
Bellach rwy'n fam i blant bach ac mae fy mywyd bob dydd yn golygu ymwneud â'r ffarm, magu'r plant a darlithio rhan amser yn adran gelf Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau.
O ganlyniad, mae fy ngwaith celf yn ymdrin â materion cyfoes sy'n ymwneud â chefn gwlad Cymru, sydd o bwys mawr i mi.
Katrina Allen Enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth 2002.
Paul de Hoxar Arddangoswr yn yr Adran Bensaernïaeth yw Paul de Hoxar. Roedd Vincent Bouvellec, Brian Evans, Ian Eggleton a Corin Yarrow wedi cynorthwyo Paul gyda'i brosiect, ac mi fyddai'n hoffi cydnabod eu rhan yn y gwaith.
Pembroke Design Cyf Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).