Arddangoswr: Christopher Nurse Mae fy mhaentiadau'n cael eu hysbrydoli gan sioeau cynnyrch pentrefi lleol sy'n cynnwys cystadlaethau am y belen wair, bag o dail, pobiad sgons gorau ayyb... Ond hyd yn hyn, bum â mwy o ddiddordeb yng nghystadlaethau'r plant: y cerflun llysiau gorau, y fisgeden a gafodd ei haddurno orau, yr ardd orau ar blât ac yn y blaen.
Mae digrifwch swynol y cystadlaethau hyn a'r creadigaethau hynod sy'n deillio o hynny yn haeddu cael eu dathlu.
Mae fy mhaentiadau'n cyfateb i bortreadau'r ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg o foch a gwartheg a enillodd wobrau ond bod y rhain am fisgedi a llysiau.
Yr hyn sy'n fy nenu i at y pwnc yw'r cyfuniad a'r gwrthgyferbyniad amlwg rhwng y dibwys, y llysieuyn, realiti a'r modd y mae'n cael ei drawsnewid yn ffantasi cerfluniol.
Katrina Allen Enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth 2002.
Paul de Hoxar Arddangoswr yn yr Adran Bensaernïaeth yw Paul de Hoxar. Roedd Vincent Bouvellec, Brian Evans, Ian Eggleton a Corin Yarrow wedi cynorthwyo Paul gyda'i brosiect, ac mi fyddai'n hoffi cydnabod eu rhan yn y gwaith.
Pembroke Design Cyf Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).