Arddangoswr: Cheri-Lee Birch "Cofnod o fy siwrnai o Gaerdydd i Dyddewi oedd y gosodwaith fideo Mud III. Yna dangoswyd y ffilm ar ddwy sgrîn deledu a osodwyd ar ben y crêt a ddefnyddiwyd ar y siwrnai. Roedd un olygfa yn edrych allan o du mewn i'r crêt a'r llall yn dilyn y crêt o'r tu allan.
"Gan nad oeddwn i erioed wedi ymweld â Sir Benfro, fy unig brofiad o Dyddewi oedd drwy dwll bychan yn ochr y bocs. "Dim ond wedi gwylio'r ffilm fideo a dynnwyd y tu allan i'r bocs y gallwn i weld yn iawn lle y bum i.
Katrina Allen Enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth 2002.
Paul de Hoxar Arddangoswr yn yr Adran Bensaernïaeth yw Paul de Hoxar. Roedd Vincent Bouvellec, Brian Evans, Ian Eggleton a Corin Yarrow wedi cynorthwyo Paul gyda'i brosiect, ac mi fyddai'n hoffi cydnabod eu rhan yn y gwaith.
Pembroke Design Cyf Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).