"Deillia'r prif ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith o chwilfrydedd â hanes personol a phwysigrwydd y cof yn diogelu hunaniaeth bersonol.

"Wedi ei ysbrydoli gan ffotograffau'r teulu a'r cyswllt cryf sydd gennym â rhai eitemau o eiddo personol, mae fy ngwaith yn ennyn atgofion drwy gyfleu nodweddion cain, rhithiol a darfodedig sy'n cyfeirio at natur fregus, dros dro atgofion. "Mae fy ngemwaith a darnau unigol ar gyfer y corff wedi eu gwneud â llaw gan ddefnyddio plu gwyn oherwydd eu nodweddion gweledol cain.
"Cafodd rhai plu eu hargraffu ag olion o ddelweddau ac y maent naill ai wedi eu ffurfio'n haenau neu'n sefyll ar eu pennau eu hunain.
"Mae sensitifrwydd ac ysgafnder y plu wedi ei gyfosod â'r syniad o'r cof yn drwm gan ystyr, gan dynnu sylw at ei natur amwys wrth iddo ddiflannu'n weledigaeth fythegol.
"Dywedir mai pluen yw mesur yr enaid."