Arddangoswr: Aled Rhys Hughes "Detholwyd y pedwar llun a arddangosir yma allan o gasgliad o 18 a grewyd ar yr 21 Rhagfyr 2001. "Cipiwyd y lluniau oddi ar sgrîn cyfrifiadur.
"Oes o ddeg eiliad yr un oedd gan y lluniau yn wreiddiol, cyn i broses awtomatig adnewyddu'r foment amhendant.
"Y syndod i mi yw bod y foment yma yn gallu bodoli mewn dau le ar yr un pryd yn Abertawe ac ar Ynys Sgitheanach Wrth drosglwyddo'r llun i bapur, gwireddwyd a thrawsffurfiwyd y foment unwaith yn rhagor."
Katrina Allen Enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth 2002.
Paul de Hoxar Arddangoswr yn yr Adran Bensaernïaeth yw Paul de Hoxar. Roedd Vincent Bouvellec, Brian Evans, Ian Eggleton a Corin Yarrow wedi cynorthwyo Paul gyda'i brosiect, ac mi fyddai'n hoffi cydnabod eu rhan yn y gwaith.
Pembroke Design Cyf Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).