Crynodeb o’r penodau
Pennod 1
- Cwrdd â chriw o ddisgyblion Blwyddyn 11 – Llion, Gags, Nobi, Gwenan, Olwen a Dei.
- Mynd gyda’i gilydd (a’u hathro Ymarfer Corff – Tecs Pecs) mewn bws mini ar gwrs adeiladu cymeriad i ganolfan gweithgareddau awyr-agored am dri diwrnod yn ystod gwyliau’r haf.
Pennod 2
- Ar y noson gyntaf mae Nobi a Gags yn cario Llion i’r tŷ bach ac yna’n gwthio ei ben i lawr y pan.
- Rhannu pawb yn grwpiau o chwech ar gyfer gweithgareddau’r tri diwrnod ac mae Llion yn yr un grŵp â Nobi a Gags, Dei, Gwenan ac Olwen.
- Cyfarfod â Donna, hyfforddwr y grŵp.
- Ysgrifennu eu gobeithion am y cwrs ar bapur.
Pennod 3
- Llion yn deffro mewn gwely gwlyb ac yn meddwl ei fod wedi gwlychu’r gwely yn ystod y nos.
- Cerdded i ben y mynydd ydy gweithgaredd y bore ac mae gwahanol aelodau’r criw yn cael cyfle i arwain.
- Nobi yn taflu sbwriel ar y mynydd a Donna’n esbonio pam ei bod hi’n bwysig peidio â thaflu sbwriel i’r gwynt.
Pennod 4
- Gweithgaredd y prynhawn ydy canŵio ar y llyn.
- Llion a Nobi yn cyfnewid canŵ.
- Mewn panig mae Nobi yn syrthio i’r dŵr gan dynnu Gags a Tecs Pecs i mewn yr un pryd!
Pennod 5
- Gweithgaredd y bore ydy dringo craig mewn parau.
- Nobi bron ag achosi damwain i Gags drwy beidio canolbwyntio gan achosi iddo ddisgyn hanner ffordd i lawr y graig.
- Dei yn llwyddo i gyrraedd copa’r graig ond yna’n cael braw oherwydd bod ofn uchder arno!
Pennod 6
- Gweithgaredd ar ôl cinio ydy abseilio oddi ar graig.
- Donna’n sôn am ferch y Plasty a laddodd ei hun ers talwm drwy daflu ei hun oddi ar y graig yma.
- Gags yn rhewi gan ofn a bron â chrio.
- Gyda’r nos, mae staff y ganolfan yn diddanu’r disgyblion gyda sgetsys.
- Gags a Nobi’n cael parti yn y stafell drws nesaf – Llion yn clywed sŵn poteli.
Pennod 7
- Y bore wedyn mae Nobi a Gags yn dioddef ar ôl bod yn yfed y noson gynt.
- Down i ddeall fod Nobi a Gags wedi dechrau ymladd a bod Tecs Pecs wedi gorfod dod i roi trefn arnyn nhw.
- Gweithgareddau’r diwrnod hwn ydy tasgau ymenyddol.
- Pawb yn chwarae gêm gorffen brawddegau mae Donna yn eu dechrau iddynt.
Pennod 8
- Y dasg gyntaf ydy chwythu chwiban sy’n hongian ar gortyn ar gangen coeden (heb gyffwrdd y goeden na chyffwrdd y chwiban gyda’u dwylo)
- Yr ail dasg ydy dringo i fyny craig 10 troedfedd o uchder, ond unwaith mae rhywun wedi cyrraedd y top does ganddyn nhw ddim hawl dod yn ôl i lawr eto nes bod pawb arall wedi cyrraedd.
Pennod 9
- Noson olaf y criw yn y ganolfan – twmpath dawns a disgo.
- Ar ôl y twmpath mae Olwen a Gwenan yn yfed fodca y tu ôl i goeden.
- Gwenan yn arwain Llion allan o’r disgo i snogio o dan goeden y tu allan.
- Gwenan yn chwydu dros esgidiau Llion!
- Gwenan yn cyhuddo Donna o ffansïo Gags.
- Llion, Gwenan ac Olwen yn mynd allan o’r disgo i chwilio am Gags ond dydyn nhw ddim yn dod o hyd iddo.
Pennod 10
- Fore trannoeth mae Llion yn sylweddoli bod Gags ar goll ac mae’n mynd i ddweud wrth Donna.
- Mae gweithwyr y gwersyll yn mynd i chwilio am Gags.
- Mae’r canlyniadau TGAU yn cyrraedd drwy’r peiriant ffacs.
- Donna’n cyrraedd yn ôl yn edrych fel zombie.
- Tecs Pecs yn torri’r newyddion drwg eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff Gags yn ymyl y graig abseilio.
- Dyma’r union le y daethon nhw o hyd i gorff merch y Plas oedd wedi’i lladd ei hun ers talwm.
Diwedd y nofel
- Marwolaeth trwy ddamwain oedd marwolaeth Gags.
- Mae gan Gwenan gariad newydd o’r enw Jason erbyn hyn.
- Mae Llion yn gariad i Olwen erbyn hyn – yn yr angladd fe wnaeth y ddau ddal dwylo.
- Pawb am fynd i fyny’r Wyddfa i weld y wawr yn torri fel ffarwél olaf i Gags.
- Maen nhw am blannu coeden yng nghae’r ysgol i gofio amdano.