Y cymeriadau: Donna
- Hyfforddwraig y criw yn y ganolfan.
- Cyhyrog a del iawn hefyd gyda gwallt hir melyn.
- Arwain gwahanol aelodau’r criw i wynebu eu hofnau ac i fagu hyder ar y cwrs.
- Y bechgyn i gyd (a Tecs Pecs) yn ei ffansïo hi.
- Cael trefn ar agwedd rywiaethol Gags a Nobi.
- Ar ddiwedd y nofel, hi sy’n dod o hyd i gorff Gags ar waelod y graig.
| Nodwedd | Rheswm | Dyfyniad |
| Croen-galed | Mae hi’n llwyddo i anwybyddu sylwadau negyddol neu’n llwyddo i ennill dadl bob tro yn erbyn Nobi, Gags a Gwenan. | 'Dw i wedi’i ddeud o unwaith, mi ddeuda i eto rhag ofn na ’naethoch chi ddallt tro cynta,' meddai Donna. 'Dei sy’n arwain. A does ’na’r un ohonoch chi’n cael bod gam o’i flaen o nes dw i’n dewis arweinydd newydd. Iawn?' |
| Teg | Dydy hi ddim yn ffafrio unrhyw aelod o’r tîm ar unrhyw adeg. | Wrth i Gags a Llion ei helpu hi i gadw’r offer dringo, mae’n holi Gags – 'Wyt ti am roi cynnig arall arni ryw dro?' |
| Mae hi’n rhoi’r cyfle i bawb ddod i adnabod eu cryfderau a’u gwendidau. | '’Dan ni’n cynnal cyrsiau mwy arbenigol yma, dysgu chi sut i arwain, gosod gêr eich hunain ac ati ... Tithau hefyd, Llion?' | |
| Egwyddorol | Mae rheolau cefn gwlad yn bwysig iawn iddi ac mae’n codi ei llais ar Nobi wrth iddo daflu sbwriel ar y mynydd. | 'Pan o’n i tua deuddeg oed, roedd gen i ferlen fynydd, Cwmwl – meddwl y byd ohoni. Ond rhyw ddiwrnod, dyma ni’n dod o hyd iddi yn y cae wedi marw. Botulism yn ôl y fet ... afiechyd ti’n ’gael o fwyta pethau fel biffbyrgars drwg aballu. Roedd ’na weddillion picnic wrth ymyl lle farwodd hi.' |
| Cryf a heini | Mae’n gwneud ei swydd yn ardderchog ac mae hi gystal ag unrhyw un o’r dynion sy’n arwain y grwpiau eraill. | '... daeth Donna allan o’r cwt efo rycsac ddwywaith maint ein rhai ni ar ei chefn ... roedd ’na olwg reit galed ar gluniau Donna, a’i breichiau hi hefyd. ’Tasai hi’n dod i sgrap rhwng Nobi a hithau, arni hi byddwn i’n rhoi ’mhres.' |
| Nodwedd | Croen-galed |
|---|---|
| Rheswm | Mae hi’n llwyddo i anwybyddu sylwadau negyddol neu’n llwyddo i ennill dadl bob tro yn erbyn Nobi, Gags a Gwenan. |
| Dyfyniad | 'Dw i wedi’i ddeud o unwaith, mi ddeuda i eto rhag ofn na ’naethoch chi ddallt tro cynta,' meddai Donna. 'Dei sy’n arwain. A does ’na’r un ohonoch chi’n cael bod gam o’i flaen o nes dw i’n dewis arweinydd newydd. Iawn?' |
| Nodwedd | Teg |
|---|---|
| Rheswm | Dydy hi ddim yn ffafrio unrhyw aelod o’r tîm ar unrhyw adeg. |
| Dyfyniad | Wrth i Gags a Llion ei helpu hi i gadw’r offer dringo, mae’n holi Gags – 'Wyt ti am roi cynnig arall arni ryw dro?' |
| Nodwedd | |
|---|---|
| Rheswm | Mae hi’n rhoi’r cyfle i bawb ddod i adnabod eu cryfderau a’u gwendidau. |
| Dyfyniad | '’Dan ni’n cynnal cyrsiau mwy arbenigol yma, dysgu chi sut i arwain, gosod gêr eich hunain ac ati ... Tithau hefyd, Llion?' |
| Nodwedd | Egwyddorol |
|---|---|
| Rheswm | Mae rheolau cefn gwlad yn bwysig iawn iddi ac mae’n codi ei llais ar Nobi wrth iddo daflu sbwriel ar y mynydd. |
| Dyfyniad | 'Pan o’n i tua deuddeg oed, roedd gen i ferlen fynydd, Cwmwl – meddwl y byd ohoni. Ond rhyw ddiwrnod, dyma ni’n dod o hyd iddi yn y cae wedi marw. Botulism yn ôl y fet ... afiechyd ti’n ’gael o fwyta pethau fel biffbyrgars drwg aballu. Roedd ’na weddillion picnic wrth ymyl lle farwodd hi.' |
| Nodwedd | Cryf a heini |
|---|---|
| Rheswm | Mae’n gwneud ei swydd yn ardderchog ac mae hi gystal ag unrhyw un o’r dynion sy’n arwain y grwpiau eraill. |
| Dyfyniad | '... daeth Donna allan o’r cwt efo rycsac ddwywaith maint ein rhai ni ar ei chefn ... roedd ’na olwg reit galed ar gluniau Donna, a’i breichiau hi hefyd. ’Tasai hi’n dod i sgrap rhwng Nobi a hithau, arni hi byddwn i’n rhoi ’mhres.' |