Y cymeriadau: Olwen
- Merch dlws ond mae Llion yn cymharu ei phennau-gliniau i rai buwch!
- Ffrind i Gwenan ers yr ysgol gynradd ond yn credu mai hi ydy’r ffrind hyll.
- Galluog iawn ac mae hi’n cael canlyniadau TGAU gwych.
- Merch i weinidog ond, er hyn, mae hi’n yfed fodca gyda Gwenan y tu allan i’r disgo.
- Aelod o’r tîm hoci ac mae hi’n gystadleuol iawn.
- Cariad Llion ar ddiwedd y nofel.
| Nodwedd | Rheswm | Dyfyniad |
| Cystadleuol | Mae elfen o gystadleuaeth yn bodoli rhwng Nobi/Gags ac Olwen drwy gydol y cwrs, ee wrth ddringo’r graig, wrth gyfnewid canŵ. | '... roedd Olwen wedi dechrau mynd fel diawl – a Gags. Typical, mentaliti tîm hoci a rygbi, isio curo pawb o hyd.' |
| Heriol | Er ei bod hi’n ferch i weinidog ac felly wedi cael ei magu’n dda, mae hi’n dal i dorri’r rheolau drwy yfed fodca gyda Gwenan ar noson y disgo. | 'Mi sbiais yn wirion arni. Wnes i ’rioed ddychmygu y byddai hi’n yfed. Mae ei thad hi’n weinidog wedi’r cwbl. Ond rheiny sydd waetha yn de?' |
| Heini | Hi ydy capten y tîm hoci. | 'Dw i’n cofio sylwi bod ganddi bennau-gliniau fel buwch pan welis i’r tîm yn ymarfer ryw dro. Wyneb reit ddel, ond coesau diawledig.' |
| Nodwedd | Cystadleuol |
|---|---|
| Rheswm | Mae elfen o gystadleuaeth yn bodoli rhwng Nobi/Gags ac Olwen drwy gydol y cwrs, ee wrth ddringo’r graig, wrth gyfnewid canŵ. |
| Dyfyniad | '... roedd Olwen wedi dechrau mynd fel diawl – a Gags. Typical, mentaliti tîm hoci a rygbi, isio curo pawb o hyd.' |
| Nodwedd | Heriol |
|---|---|
| Rheswm | Er ei bod hi’n ferch i weinidog ac felly wedi cael ei magu’n dda, mae hi’n dal i dorri’r rheolau drwy yfed fodca gyda Gwenan ar noson y disgo. |
| Dyfyniad | 'Mi sbiais yn wirion arni. Wnes i ’rioed ddychmygu y byddai hi’n yfed. Mae ei thad hi’n weinidog wedi’r cwbl. Ond rheiny sydd waetha yn de?' |
| Nodwedd | Heini |
|---|---|
| Rheswm | Hi ydy capten y tîm hoci. |
| Dyfyniad | 'Dw i’n cofio sylwi bod ganddi bennau-gliniau fel buwch pan welis i’r tîm yn ymarfer ryw dro. Wyneb reit ddel, ond coesau diawledig.' |