Llinyn Trôns gan Bethan GwanasY cymeriadau: Nobi

Mae'r nofel hon yn adrodd hanes criw o ddisgyblion un ar bymtheg oed mewn canolfan awyragored. Maen nhw'n gymeriadau gwahanol iawn sy'n dod yn fyw drwy ddefnydd cymariaethau, idiomau a thafodiaith.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Y cymeriadau: Nobi

  • Ffrind gorau Gags ond maen nhw’n ffraeo llawer yn y ganolfan.
  • Chwe throedfedd o daldra ac yn gryf.
  • Chwarae i dîm pêl-droed yr ysgol ond mae bob amser yn chwarae’n fudr.
  • Pigo’n gyson ar Llion a Dei yn yr ysgol ac yn y ganolfan.
  • Pwdu’n gyson os nad ydy’n cael ei ffordd ei hun neu os ydy pethau’n mynd o chwith.
  • Ddim yn fodlon gwrando ar neb ond Gags – mae e’n eithaf twp.
  • Crafu’i ben ôl drwy’r amser!
  • Ei dad yn berchen ar gwmni adeiladu.
NodweddRheswmDyfyniad
AnnifyrHoff o bigo ar bobl sy’n llai cyhyrog neu’n fyrrach nag ef ei hun.'Sut mae’r biceps heddiw, Llinyn Trôns? O sori! ’Sgen ti ddim nac oes?'
SbeitlydGwneud pethau cas i Llion a dweud pethau cas wrtho, ee gwlychu gwely Llion yng nghanol y nos.'Faint o fet y byddi di wedi gwneud yn dy glos go iawn pan fyddi di’n hongian oddi ar y graig ar ddarn bach o raff, y? Wimp!' 'Felly ti ydi’r missing link. Edrych fatha mwnci, dringo fatha mwnci!'
TwpMae’n dibynnu ar Gags i’w arwain drwy’r amser ac yn dilyn Gags fel dafad.'Mae gan hamster fwy o frên na’r sinach Nobi ’na.'
OfnusMae Nobi’n dangos i bawb nad ydy’n gymaint o ddyn drwy fod ag ofn disgyn i ddŵr y llyn.'Ond roedd Nobi wedi dychryn ... ac roedd o wedi hyrddio’i hun ar Gwenan, a honno’n sgrechian mwrdwr ... Ro’n i’n cael mwynhad mawr o weld yr ofn ar ei wyneb o ...'
FfyddlonMae’n ffrind ffyddlon i Gags ac yn casáu os ydyn nhw wedi ffraeo am unrhyw reswm, ee Nobi ddim yn canolbwyntio wrth i Gags ddringo’r graig.'Dyna’r tro ola dw i’n dy drystio di!' 'O, c’mon Gags ...' 'Na, dw i’n ei feddwl o. Mae mêts i fod i edrych ar ôl ei gilydd.' 'Ia, ond ...' 'Cau hi!'
NodweddAnnifyr
RheswmHoff o bigo ar bobl sy’n llai cyhyrog neu’n fyrrach nag ef ei hun.
Dyfyniad'Sut mae’r biceps heddiw, Llinyn Trôns? O sori! ’Sgen ti ddim nac oes?'
NodweddSbeitlyd
RheswmGwneud pethau cas i Llion a dweud pethau cas wrtho, ee gwlychu gwely Llion yng nghanol y nos.
Dyfyniad'Faint o fet y byddi di wedi gwneud yn dy glos go iawn pan fyddi di’n hongian oddi ar y graig ar ddarn bach o raff, y? Wimp!' 'Felly ti ydi’r missing link. Edrych fatha mwnci, dringo fatha mwnci!'
NodweddTwp
RheswmMae’n dibynnu ar Gags i’w arwain drwy’r amser ac yn dilyn Gags fel dafad.
Dyfyniad'Mae gan hamster fwy o frên na’r sinach Nobi ’na.'
NodweddOfnus
RheswmMae Nobi’n dangos i bawb nad ydy’n gymaint o ddyn drwy fod ag ofn disgyn i ddŵr y llyn.
Dyfyniad'Ond roedd Nobi wedi dychryn ... ac roedd o wedi hyrddio’i hun ar Gwenan, a honno’n sgrechian mwrdwr ... Ro’n i’n cael mwynhad mawr o weld yr ofn ar ei wyneb o ...'
NodweddFfyddlon
RheswmMae’n ffrind ffyddlon i Gags ac yn casáu os ydyn nhw wedi ffraeo am unrhyw reswm, ee Nobi ddim yn canolbwyntio wrth i Gags ddringo’r graig.
Dyfyniad'Dyna’r tro ola dw i’n dy drystio di!' 'O, c’mon Gags ...' 'Na, dw i’n ei feddwl o. Mae mêts i fod i edrych ar ôl ei gilydd.' 'Ia, ond ...' 'Cau hi!'