Llinyn Trôns gan Bethan GwanasIaith ac arddull

Mae'r nofel hon yn adrodd hanes criw o ddisgyblion un ar bymtheg oed mewn canolfan awyragored. Maen nhw'n gymeriadau gwahanol iawn sy'n dod yn fyw drwy ddefnydd cymariaethau, idiomau a thafodiaith.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Iaith ac arddull

Ymarfer

Darllena'r darn canlynol o'r nofel a rho label i bob gair neu frawddeg sydd mewn teip du trwm. Mae dau ateb wedi eu gwneud i ti.

Pan es i lawr i frecwast y bore wedyn, roedd llygaid pawb fel marblis. Rhai wedi cael partis drwy’r nos yn rhywle mae’n amlwg. Typical, dw i wastad yn colli’r hwyl i gyd. A phan ddaeth Gwenan i mewn, ’nath hi’m sbïo arna i. Fflipin hec, doedd hi ’rioed yn fy meio i? Daeth Nobi draw at Dei a finnau, efo powlan o gornfflêcs a gwallt fel crib iâr.

'S’ma’i hogiau? Noson dda doedd?' Roedd ’na wên ryfedd ar ei wyneb o; roedd o’n amlwg wedi cael amser da efo rhyw greadures ddall efo IQ dafad. 'Dach chi ’di gweld Gags?'

'Naddo,' atebodd Dei efo llond ceg o frechdan ŵy.

'Y diawl drwg heb gysgu yn ei wely ei hun neithiwr!' chwarddodd Nobi. Yna trodd at fwrdd Gwenan ac Olwen a gweiddi: 'Hei! Lle mae Gags gen ti? Dal i chwyrnu mwn! Gobeithio fod ’na well hwyl arno fo na neithiwr – roedd o’n uffernol o flin pan welais i o ddwytha. Ond ti’n gwbod sut i’w drin o’n well na fi ’dwyt?'

Edrychodd Gwenan arno’n fud am eiliad, a dyma ei gwefus isa hi’n dechrau crynu, ac mi gododd fel mellten a rhedeg allan o’r stafell. Edrychodd Nobi’n hurt arni’n gadael. 'Be uffar sy’n bod arni hi?' Daeth Olwen draw aton ni, a’i llygaid ar dân.

'Fedri di’m cau dy hen geg, Nobi? Rhwbio halen i’r briw fel’na.'

Cymhariaeth
  • "llygaid pawb fel marblis"
  • "gwallt fel crib iâr"
  • "mi gododd fel mellten"
Trosiad
  • "rhyw greadures ddall efo IQ dafad"
  • "a’i llygaid ar dân"
Bratiaith
  • "partis"
  • "typical"
  • "fflipin hec"
Cwestiwn Rhethregol"doedd hi ’rioed yn fy meio i"
Ansoddair
  • "ryfedd"
  • "fud"
  • "hurt"
Tafodiaith
  • "sbïo"
  • "hogiau"
  • "mwn"
  • "ddwytha"
  • "gwbod"
  • "isa"
  • "uffar"
Idiom"Rhwbio halen i’r briw"
Cymhariaeth
  • "llygaid pawb fel marblis"
  • "gwallt fel crib iâr"
  • "mi gododd fel mellten"
Trosiad
  • "rhyw greadures ddall efo IQ dafad"
  • "a’i llygaid ar dân"
Bratiaith
  • "partis"
  • "typical"
  • "fflipin hec"
Cwestiwn Rhethregol
"doedd hi ’rioed yn fy meio i"
Ansoddair
  • "ryfedd"
  • "fud"
  • "hurt"
Tafodiaith
  • "sbïo"
  • "hogiau"
  • "mwn"
  • "ddwytha"
  • "gwbod"
  • "isa"
  • "uffar"
Idiom
"Rhwbio halen i’r briw"

Ar ôl labelu’r nodwedd yn gywir, esbonia beth mae’r nodwedd yn ei ddweud wrthon ni am:

  1. y sefyllfa
  2. y cymeriad

Dyma atebion posib:

Cymhariaeth"Daeth Nobi draw at Dei a finnau, efo powlan o gornfflêcs a gwallt fel crib iâr."Crib iâr yw’r darn o groen sy’n sefyll i fyny ar ben yr iâr. Felly mae’n dangos fod gwallt Nobi yn sefyll i fyny yn flêr ar ôl bod yn cysgu.
Trosiad"Daeth Olwen draw aton ni, a’i llygaid ar dân."Mae’n awgrymu bod llygaid Olwen yn llosgi’n goch gan ei bod hi wedi gwylltio. Mae hi’n cadw cefn Gwenan ac yn flin gyda Nobi am ei fod e’n tynnu coes Gwenan heb sylweddoli ei bod hi wedi ypsetio.
Bratiaith"Typical, dw i wastad yn colli’r hwyl i gyd."Mae bratiaith yn cael ei defnyddio drwy’r nofel er mwyn adlewyrchu sut mae pobl ifanc yn siarad. Oherwydd hyn rydyn ni’n credu mai bachgen un ar bymtheg oed sy’n ysgrifennu dyddiadur.
Cwestiwn Rhethregol"Fflipin hec, doedd hi ’rioed yn fy meio i?"Oherwydd bod Gwenan ddim yn edrych ar Llion y bore wedyn mae e’n credu ei bod hi’n difaru ei snogio y noson gynt, a’i bod hi’n ei feio fe am y digwyddiad. Ond mae Llion yn cofio mai hi wnaeth ei arwain e allan o’r disgo ac felly mae’r cwestiwn rhethregol yn dangos ei sioc gan ei bod hi’n ei anwybyddu e.
Idiom"Rhwbio halen i’r briw"Ystyr yr idiom yw gwneud rhywbeth drwg yn waeth. Mae Gwenan yn teimlo’n wael gan ei bod hi a Gags wedi ffraeo y noson cynt. Wrth ddeall (gan Nobi) bod Gags heb gysgu yn ei wely neithiwr mae hynny’n gwneud i Gwenan feddwl ei fod e wedi bod gyda merch arall ac mae hynny’n torri ei chalon.
Ansoddair"Edrychodd Gwenan arno’n fud am eiliad"Fel arfer byddai Gwenan wedi ateb Nobi yn ôl wrth iddo dynnu ei choes, ond dydy hi ddim mewn hwyliau da y bore yma ac mae hi bron â chrio wrth ddeall bod Gags heb gysgu yn ei wely ei hun neithiwr. Mae’r ansoddair 'mud' yn awgrymu’r tensiwn yn yr ystafell cyn i Gwenan ruthro allan yn crio.
Tafodiaith"Na’th hi’m sbïo arna i."Mae llawer o eiriau tafodieithol yn cael eu defnyddio yn y nofel i gyd. Pwrpas hyn yw dangos sut mae’r cymeriadau yn siarad yn naturiol a dangos o ba ran o Gymru maen nhw’n dod. Tafodiaith ogleddol sy’n cael ei defnyddio drwy’r nofel hon.
Cymhariaeth
"Daeth Nobi draw at Dei a finnau, efo powlan o gornfflêcs a gwallt fel crib iâr."
Crib iâr yw’r darn o groen sy’n sefyll i fyny ar ben yr iâr. Felly mae’n dangos fod gwallt Nobi yn sefyll i fyny yn flêr ar ôl bod yn cysgu.
Trosiad
"Daeth Olwen draw aton ni, a’i llygaid ar dân."
Mae’n awgrymu bod llygaid Olwen yn llosgi’n goch gan ei bod hi wedi gwylltio. Mae hi’n cadw cefn Gwenan ac yn flin gyda Nobi am ei fod e’n tynnu coes Gwenan heb sylweddoli ei bod hi wedi ypsetio.
Bratiaith
"Typical, dw i wastad yn colli’r hwyl i gyd."
Mae bratiaith yn cael ei defnyddio drwy’r nofel er mwyn adlewyrchu sut mae pobl ifanc yn siarad. Oherwydd hyn rydyn ni’n credu mai bachgen un ar bymtheg oed sy’n ysgrifennu dyddiadur.
Cwestiwn Rhethregol
"Fflipin hec, doedd hi ’rioed yn fy meio i?"
Oherwydd bod Gwenan ddim yn edrych ar Llion y bore wedyn mae e’n credu ei bod hi’n difaru ei snogio y noson gynt, a’i bod hi’n ei feio fe am y digwyddiad. Ond mae Llion yn cofio mai hi wnaeth ei arwain e allan o’r disgo ac felly mae’r cwestiwn rhethregol yn dangos ei sioc gan ei bod hi’n ei anwybyddu e.
Idiom
"Rhwbio halen i’r briw"
Ystyr yr idiom yw gwneud rhywbeth drwg yn waeth. Mae Gwenan yn teimlo’n wael gan ei bod hi a Gags wedi ffraeo y noson cynt. Wrth ddeall (gan Nobi) bod Gags heb gysgu yn ei wely neithiwr mae hynny’n gwneud i Gwenan feddwl ei fod e wedi bod gyda merch arall ac mae hynny’n torri ei chalon.
Ansoddair
"Edrychodd Gwenan arno’n fud am eiliad"
Fel arfer byddai Gwenan wedi ateb Nobi yn ôl wrth iddo dynnu ei choes, ond dydy hi ddim mewn hwyliau da y bore yma ac mae hi bron â chrio wrth ddeall bod Gags heb gysgu yn ei wely ei hun neithiwr. Mae’r ansoddair 'mud' yn awgrymu’r tensiwn yn yr ystafell cyn i Gwenan ruthro allan yn crio.
Tafodiaith
"Na’th hi’m sbïo arna i."
Mae llawer o eiriau tafodieithol yn cael eu defnyddio yn y nofel i gyd. Pwrpas hyn yw dangos sut mae’r cymeriadau yn siarad yn naturiol a dangos o ba ran o Gymru maen nhw’n dod. Tafodiaith ogleddol sy’n cael ei defnyddio drwy’r nofel hon.