Llinyn Trôns gan Bethan GwanasY cymeriadau: Dei

Mae'r nofel hon yn adrodd hanes criw o ddisgyblion un ar bymtheg oed mewn canolfan awyragored. Maen nhw'n gymeriadau gwahanol iawn sy'n dod yn fyw drwy ddefnydd cymariaethau, idiomau a thafodiaith.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Y cymeriadau: Dei

  • Mae Dei yn dew – dyna pam mae pawb yn ei alw’n Dei Dwy Dunnell.
  • Ffrind Llion ar y daith ac maen nhw’n rhannu ystafell.
  • Nobi’n gas wrtho fe a Llion.
  • Bachgen clyfar sy’n cywiro Cymraeg pobl yn gyson.
  • Cryf iawn ac ym marn Llion byddai’n gwneud prop da i dîm rygbi’r ysgol, ond nid ydy Tecs Pecs yn rhoi’r cyfle iddo.
  • Magu hyder yn ystod y cwrs ac yn llwyddo i wneud pethau nad oedd wedi eu gwneud erioed o’r blaen.
NodweddRheswmDyfyniad
GordewMae’n hoff o fwyta siocledi a chreision, ee ar y bws ar y ffordd i’r ganolfan ac wrth gerdded i fyny’r mynydd. Mae’n ymwybodol o’i faint ac yn poeni am hyn ar adegau, ee wrth geisio ffitio i mewn i’w ganŵ.'Mae o’n anferth, fel rhyw blancmange mawr, ac yn fy ngwasgu i yn erbyn y ffenest.' 'A tydi o ddim y boi mwya ystwyth ’chwaith, ddim mewn siwt rwber beth bynnag. Doedd o jest ddim yn gallu rhoi un goes i mewn a chadw balans efo’r llall.'
Cryf a phenderfynolEr ei fod yn pwyso cymaint mae’n llwyddo i ddringo’r graig a chymryd rhan ym mhob gweithgaredd.'Mae o’n gry’ hefyd: mi wnes i sylwi ei fod o’n gallu cario canŵ ar ei ysgwydd fel ’tasai o’n bluen.'
Cywiro Cymraeg pawbMae nifer o enghreifftiau o hyn yn y nofel.Ashtray – blwch llwch. Lungs – ysgyfaint. Propulsion – gyriant.
DewrMae Dei yn wynebu un o’i ofnau ar y cwrs sef ei ofn o uchder. Mae’n llwyddo i ddringo’r graig fach ac yn llwyddo i abseilio i lawr y graig fawr.'A phan gyrhaeddais i’r top, ro’n i wedi gwirioni, ond dyna pryd ’nes i sbïo i lawr yn iawn am y tro cynta yn de? Wedyn mi aeth fy mhennau-gliniau i fel jeli.'
NodweddGordew
RheswmMae’n hoff o fwyta siocledi a chreision, ee ar y bws ar y ffordd i’r ganolfan ac wrth gerdded i fyny’r mynydd. Mae’n ymwybodol o’i faint ac yn poeni am hyn ar adegau, ee wrth geisio ffitio i mewn i’w ganŵ.
Dyfyniad'Mae o’n anferth, fel rhyw blancmange mawr, ac yn fy ngwasgu i yn erbyn y ffenest.' 'A tydi o ddim y boi mwya ystwyth ’chwaith, ddim mewn siwt rwber beth bynnag. Doedd o jest ddim yn gallu rhoi un goes i mewn a chadw balans efo’r llall.'
NodweddCryf a phenderfynol
RheswmEr ei fod yn pwyso cymaint mae’n llwyddo i ddringo’r graig a chymryd rhan ym mhob gweithgaredd.
Dyfyniad'Mae o’n gry’ hefyd: mi wnes i sylwi ei fod o’n gallu cario canŵ ar ei ysgwydd fel ’tasai o’n bluen.'
NodweddCywiro Cymraeg pawb
RheswmMae nifer o enghreifftiau o hyn yn y nofel.
DyfyniadAshtray – blwch llwch. Lungs – ysgyfaint. Propulsion – gyriant.
NodweddDewr
RheswmMae Dei yn wynebu un o’i ofnau ar y cwrs sef ei ofn o uchder. Mae’n llwyddo i ddringo’r graig fach ac yn llwyddo i abseilio i lawr y graig fawr.
Dyfyniad'A phan gyrhaeddais i’r top, ro’n i wedi gwirioni, ond dyna pryd ’nes i sbïo i lawr yn iawn am y tro cynta yn de? Wedyn mi aeth fy mhennau-gliniau i fel jeli.'