Mae'r nofel hon yn adrodd hanes teulu sy'n byw ar fferm fynyddig Arllechwedd a'r cyfrinachau maen nhw am eu cuddio. Mae'n ymdrin â llosgach a dwy thema ganolog y nofel ydy euogrwydd a chyfrinachedd.
ateb yn sensitif ac yn fanwl i'r nofel er mwyn gwerthfawrogi ei chynnwys, ei chymeriadau a'i themâu
adnabod a gwerthfawrogi arddull yr awdur
defnyddio tystiolaeth briodol o'r testun
cyflwyno ymateb personol a chreadigol i'r nofel.
Crynodeb o’r stori
Hanes tywyll un teulu ydy Yn y Gwaed. Y teulu hwn sy’n ffermio Arllechwedd, gan grafu bywoliaeth o’r tir anial, mynyddig. Aelodau’r teulu ydy’r hen wraig y cyfeirir ati’n unig fel Mam (ni chawn wybod ei henw), ei merch, Mared, a’i mab, Robin. Mae Mared a Robin yn eu pedwar degau. Ond daw’n amlwg cyn bo hir fod yna bedwerydd aelod o’r teulu hefyd, sef cymeriad y maen nhw’n cyfeirio ato fel Fo.
Mae Fo yn byw dan glo yn y llofft stabl. Ac yn wir, mae teimlad cryf yn y nofel o bresenoldeb aelod arall eto o’r teulu, sef Dewyrth Ifan. Er bod Dewyrth Ifan wedi marw ers blynyddoedd maith y mae, fel Fo, yn rhan ganolog o’r stori. Mae’r nofel yn adrodd hanes y teulu dros gyfnod byr o ychydig fisoedd, ond mae’n darlunio gorffennol y teulu hefyd. Mae’r gorffennol hwnnw wedi taflu cysgod du dros deulu Arllechwedd ar hyd y blynyddoedd, ac mae’n dal i wneud hynny yn y cyfnod dan sylw.