Y cymeriadau: Mared
Ti, ddyddiadur bach, yw fy nihangfa i ac mae ’nyled am hynny i Miss Ellis fach yn yr ysgol ’slawer dydd am fy siarsio i’th gadw’n gronicl. Roedd Robin yntau, er yn hŷn, yn yr un dosbarth ond go brin … Fi oedd ei ffefryn hi. ‘Deunydd llenor,’ dyna’i geiriau; ac rwy’n cofio pob gair! ‘Mynegiant graenus, geirfa gyfoethog, arddull dda … Mae cadw dyddiadur yn ymafer cynildeb; meistroli’r defnydd o’r person cyntaf; yn gyfle i gofnodi’r meddyliau mwyaf personol a’r cyfrinachau i gyd.’ Y cyfrinachau i gyd! A chefaist tithau sylw deddfol byth oddi ar hynny … Mae’r dyddiau pell hynny wedi mynd yn bethau annelwig iawn yn niwl y blynyddoedd ond does raid imi ond troi dy ddalennau i ail-fyw’r cyfan. Ond wna i mo hynny! Wna i byth mo hynny! A chaiff neb arall chwaith!
Mae dyddiadur Mared yn rhan hanfodol o’r nofel ac mae’r darn cynnar hwn ohono yn bwrw goleuni ar rai agweddau o’i phersonoliaeth gymhleth a’i bywyd yn Arllechwedd:
- Mae’n ferch ddeallus, huawdl erioed – ei hathrawes ers talwm wedi gweld
deunydd llenor
ynddi. Mae’r gwahaniaeth mawr rhyngddi hi a Robin, o ran gallu academaidd, yn cael ei awgrymu. - Mae’n cadw dyddiadur fel modd o
gofnodi’r meddyliau mwyaf personol a’r cyfrinachau i gyd
. Mae eironi yma – dyma oedd cyfarwyddyd yr athrawes i Mared ar y pryd, ond mae’r nofel yn raddol yn datgelu bod ystyr dywyllach nag arfer i’r gaircyfrinachau
yng nghyd-destun hanes Mared a gweddill teulu Arllechwedd. - Sylwa ar agwedd Mared at ddigwyddiadau’r gorffennol – mae hi wedi eu cofnodi ond dydi hi ddim am ailddarllen am y pethau hyn byth nac am adael i neb arall wneud hynny chwaith. Mae’n cydnabod y gorffennol a’i broblemau ond heb allu eu hwynebu’n iawn chwaith.
Mae Mared yn berson sylfaenol garedig a sensitif, ee sylwa ar ei thynerwch wrth ymdrin â Fo a’i thosturi ysbeidiol tuag at Robin. Ond mae wedi datblygu ochr galed a chwerw iawn yn sgil yr hanes teuluol. Dyma ddisgrifiad Robin o ymddygiad Mared un bore a hithau newydd fod yn chwerthin am ei ben:
Dyna pryd roedd Mared ar ei hylla, ym marn Robin – pan oedd hi’n chwerthin. Byth yn chwerthin o’i chalon, byth yn chwerthin efo rhywun fel y byddai hi gynt ond bob amser yn chwerthin ar draul rhywun arall – ei brawd ei hun gan amla – fel pe bai hi wedi suro ac am ddial ar bawb a phopeth.
A dyma ddisgrifiad Mared ei hun o’r gwahaniaeth rhwng y ffordd mae Robin a hithau wedi ymateb i’r profiadau teuluol mawr a’u bywyd unig, annaturiol o dan gysgod eu Mam yn Arllechwedd:
Chwerwi at Mam ydw i wedi’i wneud ond mae Robin yn corddi yn ei euogrwydd.
Mae Mared fel petai’n dygymod yn well na Robin gyda phethau ac nid ydy’n amlwg wallgof fel Fo. Ac eto, mae lle cryf i amau ei bod yn dioddef o salwch meddwl:
- Mae’n gweld drychiolaethau – mae ysbryd Dewyrth Ifan yn ymddangos iddi sawl tro.
- Mae’r ffaith ei bod yn credu bod ysbryd Dewyrth Ifan wedi gallu gwneud iddi feichiogi yn awgrymu cyflwr meddwl simsan iawn.
- Mae’n mynd yn fwyfwy isel ei hysbryd yn ystod chwarter olaf y nofel.