Cyflwyniad
Wrth ymateb i Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros, a gafodd ei gyhoeddi gan Y Lolfa, bydd disgwyl i ti:
- gwerthfawrogiBod yn ddiolchgar am rhywbeth. cynnwys, themâu a chymeriadau’r nofel
- adnabod a gwerthfawrogi arddull yr awdur, dyfynnu a thrafod addasrwydd
- gyflwyno ymateb personol a chreadigol i’r nofel
Stori Rowenna a Siôn, mam a mab, yw’r nofel hon. Rydym yn dilyn eu profiadau wrth iddyn nhw addasu i fywyd newydd yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau mawr sy’n newid cymdeithas yn llwyr. Mae’r ddau brif gymeriad yn ysgrifennu am yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw a’u teimladau mewn llyfr o’r enw ‘Llyfr Glas Nebo’.
Gwylia’r fideo yma sy’n trafod llinell amser y nofel -
Nofel ôl-apocalyptaidd
Mae’r nofel wedi ei lleoli ym mhentref Nebo, sy’n bentref go iawn mewn ardal wledig yng Ngwynedd, rhwng trefi Caernarfon a Phorthmadog. Mae’r nofel yn dangos cymuned ffuglennol sydd wedi ei chwalu gan gyfres o ddigwyddiadau.
Mae’r nofel yn fath o ffuglen wyddonolFfuglen ddamcaniaethol sy’n cyfleu effaith technoleg a gwyddoniaeth ar unigolion a chymdeithas.. Mae’r gymdeithas yn y nofel yn un sydd wedi bod drwy ryw fath o apocalypsDarganfyddiad neu ddatguddiad - mae ystyr y gair ‘apocalyps’ yn wreiddiol yn gysyniad crefyddol, fel sy’n ymddangos yn Llyfr y Datguddiad, sy’n rhagweld diwedd y byd. – sef digwyddiad, neu gyfres o ddigwyddiadau yn yr achos hwn, sy’n dinistrio bron popeth. Nofel ôl-apocalyptaiddCyfnod yn dilyn digwyddiad(au) trychinebus sy’n newid cymdeithas yn sylfaenol. yw hon – nofel sy’n dangos byd ar ôl apocalyps.
Mae’r cymeriadau yn y nofel yn galw’r cyfnod yma o newid a dinistr yn ‘Y Terfyn’Term y mae’r cymeriadau’r nofel yn ei ddefnyddio i gyfeirio at gyfres o ddigwyddiadau sy’n trawsnewid cymdeithas.. Nid yw’n glir beth sydd wedi digwydd ond mae cyfeiriadau at sawl peth gwahanol dros gyfnod o amser:
- y trydan yn diffodd
- bomiau yn cael eu gollwng
- ffrwydrad o gyfeiriad gorsaf ynni niwclear Wylfa (sydd ar Ynys Môn)
- cwmwl yn codi yn dilyn y sŵn o gyfeiriad Wylfa
Mae ‘Y Terfyn’ yn cael effaith sylweddol ar y gymuned yn y nofel. Er enghraifft, mae’n golygu bod:
- prinder bwyd a nwyddau
- pobl wedi marw neu wedi gadael
- dim trydan, technoleg, y we na rhwydweithiau cyfathrebu
- awgrymiadau bod cwmwl o nwyon wedi achosi salwch mawr
- tywydd eithafol
- diffyg cyfraith a threfn
Teitl y nofel
Llyfr nodiadau yw ‘Llyfr Glas Nebo’ - sydd hefyd yn deitl i'r nofel. Daeth Rowenna o hyd i'r llyfr mewn tŷ yn y pentref. Ynddo, mae Rowenna a Siôn yn cofnodi eu profiadau unigryw o gyfnod ‘Y Terfyn’, ac mae’r ddau yn cytuno i beidio â darllen gwaith ei gilydd. Eu cofnodion yn y llyfr nodiadau yma sy’n rhoi testun y nofel inni.
Mae’r modd mae’r nofel hon wedi cael ei henwi, Llyfr Glas Nebo, yn debyg i'r dull traddodiadol o enwi Llawysgrifau Cymraeg o’r Oesoedd CanolCasgliad o lenyddiaeth a gafodd ei ysgrifennu â llaw gan fynachod yn yr Oesoedd Canol, rhwng y flwyddyn 600 a 1485. – hynny yw bod y teitl yn dod o liw y clawr lledr gwreiddiol a’i leoliad. Dyma ddau lawysgrif gafodd eu henwi yn y dull yma:
- Llyfr Du Caerfyrddin
- Llyfr Coch Hergest
Dyma Siôn yn sôn am enwi’r llyfr yma yn yr un ffordd:
“Glas tywyll ydi ei siaced o, bron iawn yn ddu. Dwi wedi sgwennu Llyfr Glas Nebo yn fawr ar y clawr.”
Mae modd dadlau mai er mwyn dangos bod ‘Llyfr Glas Nebo’ yn perthyn i hanes llenyddiaeth Gymraeg, ac yn ddatblygiad ohoni, y dewisodd yr awdur y teitl hwn.
Cofnodi cyfnod
Mae’r llawysgrifau o’r Oesoedd Canol yn rhoi gwybodaeth bwysig inni o’r hyn oedd yn digwydd ar y pryd.
Fel y mae Siôn yn nodi:
“...Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Coch Hergest..[oedda nhw’n] lyfrau pwysig, oedd yn deud rhywbeth am hanes ein gwlad ni...”
Yn debyg i'r hen lawysgrifau, mae Siôn a Rowenna yn defnyddio eu ‘Llyfr Glas Nebo’ i roi gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd, ac wedi digwydd, mewn cyfnod arbennig:
“A dyma ni’n cytuno, Mam a fi, i rannu Llyfr Glas Nebo. Hi’n sgwennu am yr hen ddyddia a’r Terfyn, a finna’n deud am rŵan, a sut mae byw.”