Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan RosIaith ac arddull - rhan 1

Stori Rowenna a Siôn, mam a mab, yw’r nofel hon. Rydym yn dilyn eu profiadau wrth iddyn nhw addasu i fywyd newydd yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau mawr sy’n newid cymdeithas yn llwyr.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Iaith ac arddull - rhan 1

Yn aml, mae gofyn i ti ddadansoddi sut awyrgylch neu berthynas sy’n cael ei chyfleu mewn detholiad o’r nofel. Ystyria pa nodweddion arddull sy’n cyfrannu at yr awyrgylchoedd hyn:

CadarnhaolNegyddol
hapustrist
cyfeillgarbygythiol
annwylsinistr
gofalgardigalon
gwarchodolofnus
cariadushiraethus
rhamantusbrawychus
cyfforddusanghyfforddus
bodlonansicr
Cadarnhaolhapus
Negyddoltrist
Cadarnhaolcyfeillgar
Negyddolbygythiol
Cadarnhaolannwyl
Negyddolsinistr
Cadarnhaolgofalgar
Negyddoldigalon
Cadarnhaolgwarchodol
Negyddolofnus
Cadarnhaolcariadus
Negyddolhiraethus
Cadarnhaolrhamantus
Negyddolbrawychus
Cadarnhaolcyfforddus
Negyddolanghyfforddus
Cadarnhaolbodlon
Negyddolansicr

Wrth drafod arddull dylet ddilyn y camau syml hyn: PEE

  • Pwynt (arddull)
  • Esiampl
  • Effeithiol (tri rheswm)

Gwisga’r CAP dadansoddi a cheisia feddwl beth sy’n cael ei:

  • Cyfleu
  • Awgrymu
  • Pwysleisio yn y detholiad.

Defnyddia’r agoriadau isod wrth ddadansoddi effeithlonrwydd y nodweddion arddull (gwefreiriau):

Cyflwyna hyn wybodaeth bod ...

Awgryma ...

Pwysleisia ...

Disgrifia ...

Hysbysa ...

Atgoffa’r darllenydd bod ...

Piga hyn gydwybod y darllenydd ...

Golyga hyn ...

Gellir casglu ...

Yn sgil hyn ...

Yn ychwanegol ...

Yn amlwg felly ...

Effaith hyn yw ...

  • Nofel sydd wedi ei hysgrifennu ar ffurf dyddiadur.
  • Nid yw’r penodau yn y nofel wedi eu rhifo. ‘Siôn’ neu ‘Rowenna’ yw teitl pob pennod, ac maent wedi eu hysgrifennu yn y person cyntaf o safbwynt y cymeriad yn y teitl.
  • Defnydd o iaith lafar sgyrsiol, yn nhafodiaith y gogledd orllewin sy’n cyfleu’r berthynas agos rhwng y cymeriadau.
  • Arddull cryno a diwastraff.

Er bod yr iaith yn ymddangos yn foel ar yr olwg gyntaf, defnyddia’r awdur nifer o nodweddion arddull yn gynnil wrth ddisgrifio. Dy gamp di yw eu darganfod a thrafod eu heffeithiolrwydd. Chwilia am enghreifftiau o’r canlynol:

Ansoddeiriau

Daw ansoddeiriau â’r disgrifiadau’n fyw wrth iddyn nhw gyfleu sut berson yw rhywun o ran pryd a gwedd neu edrychiad. Ystyria’r disgrifiad hwn o Mr a Mrs Thorpe:

“Roedd o’n foi tal efo gwallt gwyn a sbectols, a hithau’n ddynes fach denau a syth, ac yn edrych i fyw eich llygaid chi pan oedd hi’n siarad.”

Tasg: Tanlinella’r ansoddeiriau ac ystyria eu heffaith.

Yn yr un modd, ystyria’r disgrifiad hwn o Gwdig o safbwynt Rowenna:

“Roedd ganddo fo ail wyneb fflat, afiach ar gefn ei ben, llygaid gweigion a cheg greulon, hyll. Roedd o’n aflan, yn groes i natur”

Beth mae’r ansoddeiriau hyn yn ei awgrymu am agwedd Rowenna tuag at Gwdig?

Cyffelybiaethau a throsiadau

Mae nifer o ddelweddau o fyd natur yn y nofel sy’n pwysleisio’r ffaith fod bywyd yn y nofel bellach yn llwyr ddibynnol ar yr hinsawdd ac ar dyfu cnydau / hela bwyd:

Er enghraifft, disgrifia Rowenna wallt Siôn “fel y lliw pan mae’r golau yn taro aderyn du” a disgrifia’r awdur golur Mrs Thorpe fel “gwefusau rhosod, a lliw fel niwl ar ei llygaid.”

Tasg: Chwilia am gyffelybiaethau a throsiadau yn y nofel. Ydyn nhw’n effeithiol wrth gyfleu thema neu greu awyrgylch? Rho dri rheswm pam eu bod yn effeithiol gan ddefnyddio’r gwefreiriau uchod i dy helpu.

Rhestru

Er enghraifft, y rhestr o’r nwyddau mae Rowenna’n eu prynu ar ôl iddi glywed am y bomiau ar ddechrau’r nofel:

“Mynd i B&Q i brynu llwyth o geriach na wyddwn i oeddwn i eu hangen nhw – hoelion a sgriwiau, batris, dwy fflachlamp, wind-up, sheets mawr o blastig, barbeciw. Dau polytunnel a llwythi a llwythi o hadau.”

Mae’r defnydd yma o restrau hir yn helpu cyfleu’r teimlad o frys a phanig a’r hyn mae Rowenna yn ei ystyried yn ddefnyddiol mewn cyfnod o ansicrwydd.

Tasg: Chwilia am fwy o restrau yn y nofel. Beth yw effaith eu cynnwys yn y nofel? Rho dri rheswm pam eu bod yn effeithiol gan ddefnyddio’r gwefreiriau uchod i dy helpu.

Ailadrodd

Techneg syml, ond effeithiol iawn yw ailadrodd geiriau neu ymadroddion allweddol.

Tasg: Darllena’r paragraff canlynol a thanlinella’r geiriau sy’n cael eu hailadrodd.

Meddylia beth mae’r ailadrodd yn ei gyfleu? Beth sy’n cael ei awgrymu? Beth sy’n cael ei bwysleisio?

“Wna i ddim sôn am y gweddill. Am deimlo ei law o’n cydio yn f’un i yn nhywyllwch yr ardd ar ryw noson rewllyd, na’r teimlad o chwysu efo dyn oedd yn arogli fel y pridd. Wna i ddim sôn am wres ei wên o yn y twnnel tyfu pan oedd yr eira’n disgyn fel llwch rhyw dân pell tu allan, ei fawd o’n feddal ar fy ngrudd. Wna i ddim sôn am ymestyn, o’r diwedd dan y mat y tu allan i ddrws Sunningdale a gadael ein hunain i mewn i dŷ Mr a Mrs Thorpe, gorwedd yn eu gwely, oedd yn llaith ac yn llychlyd ond yn teimlo fel nefoedd. A wna i ddim sôn- na gadael i mi fy hun gofio- am y tatŵ bach ar ei ffêr yng ngolau egwan rhyw wawr rewllyd...”